Mae ysbyty mwyaf a phrif ganolfan weinyddol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond mae’r Ymddiriedolaeth yn ymestyn dros ardal ddaearyddol fawr sy’n nodedig am ei harddwch naturiol. Mae’n ymestyn o Gaergybi yn y gogledd i Dywyn yn y de ac o Bwllheli yn y gorllewin i Landudno yn y dwyrain. Mae cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd ardderchog rhwng yr ardal a gweddill y wlad. Mae lôn gyflym yr A55 yn cysylltu’r ardal â rhwydwaith y traffyrdd a maes awyr rhyngwladol Manceinion. Mae’r rheilffyrdd yn dda ac mae cysylltiadau uniongyrchol â gogledd orllewin Lloegr a Llundain a de Cymru. Mae’r gwasanaethau fferi yng Nghaergybi yn mynd yn uniongyrchol i Ddulyn mewn 99 munud.
Ysbytai Cymuned
|
|