
|
|
Efallai mai nodwedd fwyaf hynod yr ardal ydy egni’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Mae Cymru’n genedl ddwyieithog. Oherwydd amrywiaeth ieithyddol y boblogaeth, mae’n bwysig fod gwasanaethau clinigol yn cael eu darparu yn y ddwy iaith. |
|
|
|
| Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru bolisi dwyieithrwydd sy’n annog staff i ddysgu’r iaith Gymraeg ac yn rhoi’r cyfle iddynt wneud hynny. | Mae Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru wedi mabwysiadu'r egwyddor, wrth wneud ei gwaith cyhoeddus, y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae wedi datblygu 'Cynllun Iaith Gymraeg' sy'n amlinellu sut y bydd yr Ymddiriedolaeth yn gweithredu ar yr egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru. Yn y rhan yma o'r Wefan ceir gwybodaeth bellach ynglyn a'r Cynllun Iaith, ac adnoddau a gwybodaeth bellach ynglyn a dwyieithrwydd yn yr Ymddiriedolaeth.
Ydych chi'n disgwyl babi ar hyn o bryd, neu a oes gennych blant ifanc yn barod?
Mae'n siwr eich bod yn awyddus i sicrhau eich bod yn rhoi'r gorau i'ch plentyn bob tro - bwydydd da, teganau diogel, yna'r addysg orau. Efallai mai un o'r pethau na fyddwch wedi meddwl amdano yr pa iaith ydych chi am siarad â'r plentyn. |
 |
Un o'r anthegion gorau y gallwch roi i'ch plentyn yw'r sgil o siarad dwy iaith. Beth am ddechrau cyflwyno'r Gymraeg i'ch plentyn unwaith y bydd wedi ei eni. Am fwy o wybodaeth ar gyflwyno'r Gymraeg i'ch plentyn gartref, cliciwch ar logo Twf ! | Cysylltau Defnyddiol
Dysgu Cymraeg (Linc i Gwefan y BBC) Geiriadur, Gwirydd Sillafu a Gwirydd Treigladau (Linc i Gwefan y BBC) |
|