Mae Gwasanaeth Caplaniaeth yr Ysbyty yn bwynt cyswllt i gwrdd ag anghenion ysbrydol cleifion, gofalwyr a staff. Y gaplaniaeth yw’r pwynt mynediad ar gyfer cael gofal ysbrydol, beth bynnag fo’ch crefydd. Fe welwn ein prif ddyletswydd fel un o ddarparu, cydlynu, cyfarwyddo a monitro ymateb yr Ymddiriedolaeth i anghenion ysbrydol unigol ac unigryw pawb sy’n dod yn rhan o gymuned yr ysbyty. Yn ystod arhosiad yn yr ysbyty, bydd y mwyafrif o gleifion yn cyfarfod aelod o’n tîm lleyg a bydd gofyn a hoffai’r claf gael ymweliad gan aelod o’r gaplaniaeth. Gallwn gynnig cymundeb wrth y gwely, gweinidogaeth iachusol, cymodi, gweddi a darlleniadau o’r Beibl, cynghori ac yn syml glust i wrando. Yr ydym hefyd yn rhoi i adrannau eraill adnoddau angenrheidiol i gwrdd â’u goblygiadau ysbrydol eu hunain tuag at gleifion, gofalwyr a staff. Mae gennym rwydwaith wedi’i sefydlu i’n galluogi i alw ar ofalwyr ysbrydol mwyafrif crefyddau’r byd. Mae'r Ganolfan Gaplaniaeth wedi’i lleoli yn galon Ysbyty Gwynedd ac mae’n ganolbwynt ac yn gadarnle ar gyfer darparu ymateb yr Ymddiriedolaeth i’r angen ysbrydol a soniwyd amdano. Mae i’r ganolfan ddau brif bwrpas, sef i groesawu i mewn y rhai sydd angen lle i feddwl, i siarad neu i weddïo ac yn ail i fod yn lleoliad i’r gwasanaeth caplaniaeth fedru ymestyn allan at rai mewn angen yn yr ysbyty. Mae’r Ganolfan yn cynnwys man addoli aml-ffydd, swyddfa, ystafell gynghori bwrpasol ac ystafell ble y gellir gweithredu ymolchi defodol cyn addoli. Mae’r man addoliad wedi’i gynllunio’n ofalus fel y gall prif gredoau’r byd gael eu man pwrpasol eu hunain i addoli. Mae’r Ganolfan wedi’i chysylltu gyda phob gwely trwy Radio Ysbyty Gwynedd. Golyga hyn y gall gwasanaethau a digwyddiadau gael eu darlledu’n fyw i bawb fel y gall pob claf sydd hyd yn oed yn gaeth i’r gwely gymryd rhan a chael ei gynnwys mewn defodau addoli. Mae cyfathrebu yn y ganolfan wedi’i wella trwy’r defnydd o feicroffonau radio a gysylltir gyda system chwyddo sain arbennig. Mae yn y ganolfan Wasanaeth ar y Sul, Offeren Gatholig, Gweddïau Gwener Mwslemaidd, gwasanaethau ar ddyddiau’r wythnos a Gweddïau Mwslemaidd Dyddiol. Caiff y ganolfan ei defnyddio’n ddyddiol gan Gristnogion, Mwslemiaid a Hindwiaid yn ogystal ag amryw o bobl eraill nad oes ganddynt un grefydd benodol. Mae’r ganolfan yn agored ddydd a nos i groesawu unrhyw un i ddod i dreulio ychydig funudau mewn tawelwch, i weddïo neu i gael teimlad o heddwch a thangnefedd. Caiff ein hysbytai cymuned ofal ysbrydol trwy weinidogaeth caplaniaid rhan amser lleol. Gellir cysylltu â hwy trwy staff y ward/ adran. Amseroedd gwasanaethau yn Ysbyty Gwynedd
| Dyddiol |
1.40 pm |
Gweddïau Dyddiol Mwslemaidd |
| Dydd Sul |
9.30 am |
Cymun Sanctaidd |
| Dydd Mercher |
12.00 pm |
Cymun Sanctaidd |
| Dydd Gwener |
1.30 pm |
Gweddïau Gwener Mwslemaidd |
| Dydd Sadwrn |
4.30 pm |
Offeren yr Eglwys Gatholig | Mae crefyddau eraill yn cynnal gwasanaethau yn y Ganolfan.
I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â:
| Y Parchedig Wynne Roberts |
| Rheolwr Caplaniaid |
| Swyddfa’r Caplaniaid |
| Ysbyty Gwynedd |
| Bangor |
| Gwynedd |
| LL57 2PW |
Ffôn: (01248) 384095 | |