Trefniadau Ymweld Er lles cleifion, gofynnwn i chi beidio â chael mwy na dau ymwelydd wrth y gwely ar yr un pryd ac i gadw llygad ar unrhyw blant - gofynnwch i Brif Weinydd neu Brif Weinyddes y Ward cyn mynd â phlant i'r ward. Rydym yn cynghori ymwelwyr i beidio â dod â babanod bach i'r ysbyty. Ysbyty Gwynedd Pob Ward
| Bob dydd: |
1.30 pm - 2.30 pm 6.30 pm - 7.30 pm |
| Ward Tryfan: |
Mor hyblyg â phosib |
| Uned Gofal Coronari: |
Ymweld hyblyg (ar gau rhwng 1.30 pm a 3.30 pm) |
| Uned Baediatrig: |
Amseroedd ymweld agored i rieni, perthnasau agos neu ofalwyr. Pob ymwelydd arall i gadw at amseroedd ymweld arferol yr ysbyty |
| Uned Mamolaeth: |
Ymweld Partneriaid 1.30 pm - 7.30 pm |
| Uned Heulwen: |
2.00 - 4.00 pm |
|
6.30 - 8.00 pm |
| Uned Hergest: |
Unrhyw amser cyn 8.00 pm | Cynghorir ymwelwyr i ffonio Prif Weinyddes neu Brif Weinydd y Ward ymlaen llaw pan fydd cyfyngu efallai ar oriau ymweld oherwydd cyflwr y claf. Ysbyty Cyffredinol Llandudno Pob Ward
| Bob dydd: |
1.30 pm - 2.30 pm 6.30 pm - 7.30 pm | Cynghorir ymwelwyr i ffonio Prif Weinyddes neu Brif Weinydd y Ward ymlaen llaw pan fydd cyfyngu efallai ar oriau ymweld oherwydd cyflwr y claf. Ysbytai Cymuned
| Bob dydd: |
1.30 pm - 2.30 pm 6.30 pm - 7.30 pm |
| Ysbyty Bron y Garth, Penrhyndeudraeth |
| Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli |
| Ysbyty Cefni, Llangefni |
| Ysbyty Cymuned Dolgellau a'r Bermo, Dolgellau |
| Ysbyty Eryri, Caernarfon |
| Ysbyty Coffa Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog |
| Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi |
| Ysbyty Tywyn, Tywyn | Amseroedd Bwyd wedi'u Neilltuo O 7 Ionawr 2008 bydd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru yn cyflwyno Amseroedd Bwyd wedi'u Neilltuo sy'n gyfnodau dros amser cinio ac amser swper pan fydd gweithgaredd ar y ward yn stopio a'r nyrsys ar gael i helpu gweini bwyd a rhoi cymorth i gleifion sydd angen help. Os ydych yn ymweld â ward sy'n arddangos Poster Amseroedd Bwyd wedi'u Neilltuo, cofiwch barchu hyn. Ond os ydych wedi arfer ymweld yn ystod prydau bwyd er mwyn helpu eich pethynas / cyfaill i fwyta, rydym yn fodlon i chi ddal i wneud hyn. Ymholiadau Efallai y bydd perthnasau a ffrindiau yn holi am glaf drwy ffonio'r ysbyty. Er mwyn sicrhau cyn lleied o alwadau â phosib, gofynnwch i un aelod o'r teulu gysylltu â'r ysbyty a rhoi gwybod i weddill y teulu. Byddwn yn dweud sut mae'r claf yn gyffredinol wrth ffrindiau agos a pherthnasau os nad yw'r claf yn gofyn yn arbennig inni beidio â rhannu'r wybodaeth yma. Helpwch ni i leihau heintiau Mae Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru wedi gweithredu polisiau llym sy'n anelu at leihau heintiau. Mae gel alcohol ar gael i'w ddefnyddio i lanhau a diheintio dwylo. Mae ar gael wrth fynedfa pob ward a chaiff ymwelwyr eu hannog i'w ddefnyddio cyn ar ar ôl ymweld. Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru oedd hefyd y cyntaf yng Ngogledd Cymru i roi y gel alcohol arbennig i olchi dwylo wrth bob gwely er mwyn helpu staff, cleifion ac ymwelwyr i lanhau eu dwylo'n fwy aml. Er mwyn helpu'r ysbyty i leihau heintiau: - Dylai ymwelwyr ddefnyddio'r gel alcohol wrth fynedfa pob ward bob amser cyn ac ar ôl ymweld.
- Dylai ymwelwyr ddefnyddio cadeiriau bob amser a pheidio ag eistedd ar welyâu.
- Golchwch eich dwylo bob amser ar ôl defnyddio'r toiled.
Parcio yn Ysbyty Gwynedd Mae 'man gollwng' arbennig wedi cael ei greu yn ymyl prif fynedfa'r ysbyty, ac mae mesurau ychwanegol i arafu traffig yn cynnwys 'twmpathau' i reoli cyflymder, gwell golau a llwybrau i gerddwyr wedi cael eu cyflwyno. Gosodwyd arwyddion a marciau ar y ffyrdd o amgylch yr ysbyty yn rhybuddio gyrwyr i gadw ffyrdd a llwybrau argyfwng yn glir ac i sicrhau fod cerbydau argyfwng yn medru mynd at bob ardal o'r ysbyty yn rhwydd. Helpwch staff, ymwelwyr a chleifion yr ysbyty trwy barcio'n ddiogel yn y maes parcio priodol. Patientline
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi gosod system Patientline yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Cyffredinol Llandudno. System adloniant wrth ochr y gwely ydy Patientline hefo set deledu, ffôn, radio a mynediad i’r rhyngrwyd. Mae’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf un fel bod y claf yn medru gwneud a derbyn galwadau ffôn a hefyd wylio pob math o sianelau a ffilmiau ar y teledu.
Mae mwy o wybodaeth am Patientline, yn cynnwys manylion am sut i’w ddefnyddio ar gael wrth bob gwely. Hefyd mae staff penodol Patientline ar gael yn yr ysbyty i’ch helpu i gael y gorau o’r system. |