North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 05 Rhagfyr, 2008
Mewngofnodi
Llun adran Gwybodaeth - Orthoptydd
Gwybodaeth > Cwestiynau Cyson
CWESTIYNAU CYSON            
 

Beth sy'n digwydd pan gaf fy nghyfeirio i ysbyty gan fy Meddyg Teulu?
Bydd eich meddyg yn anfon llythyr cyfeirio i'r ysbyty yn dweud wrth ein staff meddygol am eich cyflwr ac ar faint o frys y mae angen apwyntiad arnoch. Cewch eich rhoi ar restr aros ac anfonir apwyntiad 8 wythnos cyn eich dyddiad.

Beth os bydd fy nghyflwr yn gwaethygu cyn i mi gael f'apwyntiad?
Dylech fynd nôl at eich Meddyg Teulu. Os bydd angen, bydd ef/hi yn cysylltu â'r ysbyty eto.

Sut allaf wirio dyddiad ac amser fy apwyntiad?
Bydd manylion cysylltu ar eich cerdyn neu lythyr apwyntiad. Os ydych wedi colli hwn, dylech ffonio'r ysbyty priodol a gofyn am yr adran berthnasol (e.e pelydr X) neu'r ysgrifenyddes neu glerc apwyntiadau'r Ymgynghorwr yr ydych yn ei weld.

Gaf i ganiatâd i ysmygu yn yr ysbyty?
Na. Mae ysmygu'n ddrwg i'ch iechyd ac ni chaiff ei ganiatáu yn un o adeiladau'r Ymddiriedolaeth.


Pam fo dyddiad fy apwyntiad yn newid o hyd?
Ceisiwn osgoi newid neu ganslo apwyntiadau ond weithiau mae hyn yn anochel, e.e. pe bai staff yn sâl neu pe derbynnir cleifion â chyflyrau mwy difrifol.

Beth ydi'r oriau ymweld?
Mae'r oriau ymweld  yn amrywio, yn dibynnu ar yr ysbyty ac ar y math o ward. 

Sut medraf gael apwyntiad ysbyty, clinig neu â'r chiropodydd, ffisiotherapydd ayyb?
Dim ond trwy eich Meddyg Teulu y cewch chi apwyntiad.

Beth ddylwn wneud os na fedraf gadw at yr apwyntiad?
Os na fedrwch gadw at yr apwyntiad, mae'n bwysig i chi roi gwybod i ni fel y gall claf arall gael apwyntiad yn eich lle. Os ydych chi'n gwybod na fedrwch ddod i'r ysbyty, dylech ffonio'r rhif ffôn ar y cerdyn neu lythyr apwyntiad cyn gynted ag y gwyddoch eich bod yn methu dod. Os nad ydych chi'n siwr, dylech ffonio'r ysbyty priodol a gofyn am gael siarad â chlerc derbyniadau'r ymgynghorwr.

Gaf i'r ddeiet arbennig sydd ei hangen arnaf amser bwyd gan yr ysbyty?
Bob dydd, cynigir dewis i chi o fwydydd sy'n addas ar gyfer pob diwylliant, crefydd a diet arbennig. Os ydych ar ddiet arbennig, dylech ddweud wrth aelod o staff cyn gynted ag y cewch eich derbyn.

Sut allaf roi anrheg i'r nyrsys sy'n gofalu amdanaf?
Nid oes hawl gan aelodau o staff dderbyn rhoddion, arian nac eitemau ariannol gwerthfawr. Caiff anrhegion cymharol fach fel blodau a siocledi eu gwerthfawrogi, neu os hoffech wneud cyfraniad ariannol tuag at yr ysbyty, gallwch anfon siec i'r Cyfarwyddwr Cyllid, Ysbyty Gwynedd, Bangor yn nodi prun ai yr hoffech roi eich rhodd at bwrpas penodol neu er budd ward neu adran arbennig. Hefyd, gallwch wneud rhodd ariannol yn Swyddfeydd Cyffredinol unrhyw ysbyty.  Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar sut i roi rhodd.

Pa mor hir y bydd rhaid i mi ddisgwyl yn yr adran Cleifion Allanol?
Gwelir y rhan fwyaf o gleifion o fewn 30 munud i amser eu hapwyntiad. (Dyma safon Siarter y Claf). Ond, ar adegau gall clinig fod yn arbennig o brysur ac yn anffodus, efallai bydd rhaid inni gadw chi'n disgwyl yn hwy na hyn. Bydd staff nyrsio'r clinig yn rhoi gwybod i chi am unrhyw oedi.




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS