North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 28 Awst, 2008
Mewngofnodi
Llun adran Gwybodaeth - Orthoptydd
Gwybodaeth > Rhoddion  [Rhoddion diweddar : OG08 : Mwy o ddylliau rhoi]
RHODDION            
 

Mae nifer o bobl yn rhoi'n hael i'r elusennau cenedlaethol mawr yn barod ac mae'r gwaith sy'n cael ei gyflawni ganddyn nhw yn hynod o werthfawr.

Ydych chi wedi ystyriad rhoi help llaw i'ch Ymddiriedolaeth GIG leol erioed?  Dros y blynyddoedd mae miloedd o gleifion wedi elwa oherwydd y cyfarpar a'r cyfleusterau ychwanegol a gafodd eu prynu drwy haelioni'r cyhoedd.  Ymhlith y rhain roedd Apêl y Sganiwr, Uned Ganser Alaw a Thy Enfys.

Trwy gyfrannu at Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru gallwch fod yn dawel eich meddwl fod eich arian yn helpu i wella'r gwasanaeth a gwneud gwahaniaeth yn lleol i bobl eich cymuned chi eich hun.

Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cynhyrchu Adroddiad i Bartneriaid sy'n cynnwys Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a rhai enghreifftiau o sut y defnyddir yr arian

Gellir cyfrannu trwy'r dulliau canlynol:

Cyfrannu'n Rheolaidd
     Trefnwch roi swm bob mis yn rheolaidd drwy lenwi'r Ffurflen Debyd Uniongyrchol
Rhoi er Cof
Gall teulu a ffrindiau gofio am un annwyl drwy gyfrannu rhodd er cof i ward neu adran
Rhoi yn Eich Ewyllys
Os ydych yn dymuno gadael rhywbeth yn eich Ewyllys, gofynnwch i'ch Cyfreithiwr gysylltu â Chyfarwyddwr Cyllid Gweithredol yr Ymddiriedolaeth
Rhoi i Ddathlu
Gwnewch eich achlysur yn arbennig iawn drwy ofyn am gyfraniadau yn lle anrhegion
Mwy o Ddulliau Rhoi
Mwy o ddulliau rhoi i Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru h.y. gydag Cerdyn Credyd / Debyd, Rhodd Cymorth neu Siec

Gallwch gyfrannu ar-lein i'r Ymddiriedolaeth gan ddefnyddio'r ddolen gyswllt 'Charity Choice'.

Mae 'Charity Choice' yn hollol ddiogel, ac yn hawdd i'w ddefnyddio, a hefyd os ydych yn talu treth yn y DU gallwch gofrestru eich cyfraniad fel Rhodd Cymorth.

Cliciwch i roi rhodd ar-lein

 

Rhai enghreifftiau o sut mae Gwasanaethau'r Ymddiriedolaeth wedi elwa o'ch cyfraniadau

 

Am fwy o wybodaeth ar gyfrannu at Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru, cysylltwch â:

Y Swyddfa Gwaddol

Yr Adran Gyllid

Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru

Ysbyty Gwynedd

Penrhosgarnedd

Bangor,  Gwynedd     LL57  2PW

Ffôn:  (01248) 385346

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS