North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 05 Rhagfyr, 2008
Mewngofnodi
Ein Proffil
Ein Proffil > Gwobrau ac Achrediad
GWOBRAU AC ACHREDIAD            
 

Gwasanaeth yn Gymraeg

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru wedi mabwysiadu'r egwyddor, wrth wneud ei gwaith cyhoeddus, y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.

Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cyhoeddi Cynllun Iaith Gymraeg a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 3 Gorffennaf 2002. Mae'r Cynllun hwn yn amlinellu sut y bydd yr Ymddiriedolaeth yn gweithredu ar yr egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru.

Buddsoddwr mewn Pobl

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru wedi llwyddo i ennill statws Buddsoddwr mewn  Pobl trwy'r Ymddiriedolaeth.

Mae Buddsoddwr mewn Pobl yn safon ansawdd cenedlaethol sy'n gosod lefel o ymarfer da i wella perfformiad y sefydliad trwy ei bobl.


Defnyddiwr Symbol Anabledd

Cymeradwywyd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru gan y Gwasanaethau Cyflogi i fod yn Ddefnyddiwr Symbol Anabledd o 1 Ebrill 2003.

Bydd y symbol, sef dau ‘tic’ a’r pennawd ‘positif am bobl anabl” yn cael eu defnyddio ar hysbysebion swyddi ac ar rywfaint o ddeunydd a gyhoeddir gan yr Ymddiriedolaeth.  Mae’n dynodi bod yr Ymddiriedolaeth wedi pasio asesiad gan y Gwasanaeth Cyflogi  sy’n dangos ei bod yn bositif am weithwyr ag anabledd.

Iechyd ar Waith   

 

Llwyddodd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru i gyrraedd Safon Aur Gwobr Iechyd ar Waith genedlaethol.

Iechyd ar Waith yw'r arwydd o ansawdd o ran hybu iechyd yn y gwaith.  O dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru, caiff ei gyflwyno ar ffurf categorïau efydd, arian ac aur i sefydliadau cyhoeddus a phreifat sy'n gweithredu polisïau ac arferion i hybu eu gweithwyr.

Gwobrau’r Iaith Gymraeg mewn Gofal Iechyd

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, enillodd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru wobr gyntaf yng Nghynhadledd Genedlaethol yr Iaith Gymraeg mewn Gofal Iechyd a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Enillodd yr Ymddiriedolaeth y wobr gyntaf am ‘y fenter newydd fwyaf llwyddiannus’ am DVD corfforaethol a gynhyrchwyd gan Uned Cysylltiadau Corfforaethol yr Ymddiriedolaeth.

 

Tim Rhewmatoleg y Flwyddyn

Cafodd yr Athro Peter Maddison a’i dîm yng  Ngwasanaeth Rhewmatoleg Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru eu henwi fel tîm Rhewmatoleg y flwyddyn yng ngwobrau y papur newydd Hospital Doctor. 

Mae’r wobr, a drefnir gan bapur newydd Hospital Doctor, yn amlygu gwaith rhagorol Rhewmatolegwyr ar draws y wlad sy’n darparu gofal o’r safon gorau i gleifion.  

Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd

Mae Ysbyty Gwynedd wedi ennill Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd Lefel 3.

Pwrpas Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd yw gwneud ymrwymiad i reolaeth amgylcheddol.  Mae'r safon yn cynnwys pum cam, ac mae pob un ohonynt yn cynnwys y prif elfennau o Gynllunio, Cymryd Camau, Gwirio Cynnydd ac Adolygu Cyrhaeddiadau i wireddu gwelliant amgylcheddol parhaus.

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS