North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 28 Awst, 2008
Mewngofnodi
Polici preifatrwydd
    Polisi Preifatrwydd            
     

    Defnyddwyr Anhysbys a Gwybodaeth Bersonol

    Mae ffeiliau log yn cael eu cadw o bob cais am ffeil ac yn cael eu dadansoddi. Caiff y dadansoddiadau o’r ffeiliau log eu rhoi at ei gilydd i fonitro’r defnydd o’r wefan. Mae’r dadansoddiadau ar gael i Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru fesur pa mor boblogaidd yw’r safle, er enghraifft, a llwybrau nodweddiadol defnyddwyr drwy’r safle.

    Ar y cyd â gwybodaeth arall nad yw’n cael ei chasglu gan Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ond a allai gael ei chasglu gan wasanaethau rhwydwaith eraill, efallai y byddai’n bosib dynodi defnydd unigolyn o wefan Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru mewn rhai sefyllfaoedd. Nid yw Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru’n casglu’r wybodaeth ychwanegol angenrheidiol ac ni fydd yn gwneud unrhyw ymgais i olrhain neu adnabod defnyddwyr unigol, oni bai fod cydsyniad pendant wedi ei roi ar gyfer hynny neu lle bo amheuaeth deg o geisio cael mynediad heb ganiatâd i systemau. Yn achos pob defnyddiwr, mae gan Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru yr hawl i geisio adnabod ac olrhain unrhyw unigolyn sy’n cael ei amau’n deg o geisio mynediad heb ganiatâd i systemau cyfrifiadurol neu adnoddau sy’n gweithredu fel rhan o wasanaeth Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru. Amod defnyddio’r safle hon ydy bod rhaid i ddefnyddwyr ganiatáu i Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ddefnyddio ei logiau mynediad i geisio olrhain defnyddwyr sy’n cael eu hamau’n deg o gael neu geisio cael mynediad heb ganiatâd.

    Caiff gwybodaeth ffeiliau log a gesglir gan Ymddiriedoaleth GIG Gogledd Orllewin Cymru eu cadw’n ddiogel ac ni chaiff unrhyw drydydd parti fynediad i ffeiliau log crai.

    Bydd Ymddiriedoaleth GIG Gogledd Orllewin Cymru’n sicrhau bod ganddi drefn briodol o warchod data o ran y wybodaeth sydd ar gael drwy ei gwefan.

    Defnyddio ‘Cookies’

    Nid yw Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru yn storio unrhyw wybodaeth a fyddai ar ei phen ei hun yn ein galluogi i adnabod defnyddwyr unigol y gwasanaeth heb eu caniatâd. Mae unrhyw ‘cookies’ a ddefnyddir efallai gan Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru yn cael eu defnyddio un ai fesul sesiwn yn unig neu i sicrhau dewis y defnyddwyr. Ni chaiff ‘cookies’ eu rhannu gydag unrhyw drydydd parti.

    Olrhain defnyddwyr

    Heblaw am yr hyn a nodwyd yn barod, ni fydd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru’n gwneud unrhyw ymgais i adnabod defnyddwyr unigol. Ond mi ddylech fod yn ymwybodol y bydd mynediad i dudalennau’r we yn creu cofnodion log yn systemau’ch ISP neu systemau darparwr y gwasanaethau rhwydwaith. Mae’n bosib y bydd y cofnodion yma mewn sefyllfa i adnabod offer cyfrifiadurol cleient sy’n cael ei ddefnyddio i gael mynediad i dudalen. Byddai monitro o’r fath yn cael ei wneud gan ddarparwr y gwasanaethau rhwydwaith ac mae y tu hwnt i gyfrifoldeb neu reolaeth Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru.




    Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

    North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
    Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
       Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS