Mae prif safleoedd yr ysbyty yn darparu'r gwasanaethau Awdioleg canlynol:
- Ystafell Awdio Sain benodol ar gyfer Archwiliadau Awdiolegol
- Cyfleusterau Gweithdy
- Ystafelloedd gosod cymhorthion clyw
- Ystafell Gywasgu a swyddfa therapi clyw
Mae gan Ysbyty Cyffredinol Llandudno un ystafell yn yr adran cleifion allanol i brofi clyw ac i osod cymhorthion ac mae yng Nghanolfan Iechyd Pwllheli un ystafell ar gyfer gosod a thrwsio cymhorthion clyw. Mae ystod llawn o brofion ar gael ac mae'r Adran Awdioleg hefyd yn gwneud yr holl brofion sgrinio clyw plant sy'n mynd i'w blwyddyn gyntaf yn yr ysgol. Mae'r adran hefyd yn darparu gwasanaeth cymhorthion clyw 'yn y glust' preifat trwy ddosbarthwr mewnol a gontractiwyd. |
|