Mae’r Ymddiriedolaeth yn darparu gwasanaeth Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd.
Mae’r uned yn delio â phob damwain ac achos brys 24 awr y dydd, bob diwrnod o’r flwyddyn. Caiff yr hyn a elwir yn ‘system triage Manceinion’ ei weithredu yn yr uned, sydd yn ffordd o drefnu pobl yn ôl eu hangen meddygol:
Coch – cael eich gweld gan feddyg ar unwaith
Oren – cael eich gweld gan feddyg o fewn 10 munud
Melyn – cael eich gweld gan feddyg o fewn 1 awr – os nad oes achos brys pwysicach
Gwyrdd – cael eich gweld ar ôl i’r achosion brys gael sylw
Glas – ddim yn achos brys – cael eich gweld ar ôl pawb arall
Mae’r broses ‘triage’ hon yn gwneud yn siŵr fod y rhai sydd â’r angen mwyaf yn cael eu gweld yn gyntaf, yn hytrach na phobl yn cael eu gweld ar sail “y cyntaf i’r felin gaiff falu”.
Yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd yw’r un a ddynodir yng Ngogledd Orllewin Cymru i dderbyn y rhai sydd wedi’u hanafu mewn digwyddiadau mawr, digwyddiadau ymbelydredd, digwyddiadau cemegol ac ar ôl damweiniau biolegol.
Mae’n cefnogi adran cleifion allanol trwy gael ystafell blastr lle caiff castiau plastr a sblintiau eraill eu gosod gan staff sy’n gweithio’n benodol yn yr ystafell blastr. Y tu allan i oriau clinig mae holl staff yr Adran Achosion Brys yn gosod castiau plastr.
Gan fod Ysbyty Gwynedd yn agos at fynyddoedd Eryri a’r môr hefyd, yn aml iawn caiff cleifion eu cludo gan hofrenyddion Sea King Sgwadron Chwilio ac Achub RAF Y Fali i’r ysbyty. Mae gan staff nyrsio'r Adran Achosion Brys berthynas gwaith agos â’r criwiau awyr a phob blwyddyn maent yn cael diwrnod o hyfforddiant ac yn hedfan gyda hwy. Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans Awyr a hofrennydd Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn dod â’r rhai sydd wedi’u hanafu i’r ysbyty.
Mae’r Adran yn delio â llawer o gleifion sy’n ddifrifol wael bob blwyddyn ac mae Tîm Trawma yn gweithredu gyda’r bwriad o ddod â phawb at ei gilydd pan mae angen ymdrin â’r cleifion hyn.
Mae gan yr Adran Achosion Brys ran allweddol o safbwynt gofalu am y rhai sy’n cael trawiad ar y galon ac mae staff yn medru rhoi cyffuriau arbennig yn fuan iawn ar ôl y trawiad ac felly’n cynyddu’r siawns o wella. Yn yr adran mae nifer o staff â’r gallu i roi uwch-sgiliau cefnogi bywyd cleifion y galon.
Daw nyrsys dan hyfforddiant o’r Ysgol Nyrsio i’r adran lle cânt brofiad gwerthfawr.
Caiff myfyrwyr eu cefnogi gan fentoriaid ac aseswyr tra maen nhw ar yr uned.
Mae’r uned yn Ysbyty Gwynedd yn cefnogi amrywiaeth o wasanaethau yn cynnwys pelydr-X 24-awr, sganio CT a chyfleusterau labordai.
Staff Meddygol Ymgynghorol