North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 06 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cyfarwyddiaeth Llawfeddygaeth > Llawfeddygaeth Dydd / Endosgopi
LLAWFEDDYGAETH : Llawfeddygaeth Dydd / Endosgopi            
 

Ysbyty Gwynedd

Mae’r uned Llawfeddygaeth Dydd ac Endosgopi yn uned bwrpasol a agorwyd ym 1994. Mae ei mynedfa wedi’i lleoli drws nesaf i’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys ac mae’n cynnwys derbynfa, man cyn-asesu ac ôl-lawdriniaeth, dwy theatr lawdriniaethau, dwy ystafell Endosgopi a dwy ystafell driniaeth.

Mae ystafell adferiad fawr sydd wedi’i rhannu yn adferiad cam 1af ac 2il gam. Hefyd mae ystafelloedd rhyddhau ac ystafelloedd cynghori.

Caiff cleifion eu gweld yn yr uned cyn eu llawdriniaeth ar gyfer gyfer eu hasesudethol cleifion yn ofalus gan staff nyrsio. Gall y staff asesu p’un ai fod y claf yn ffit ar gyfer anaesthetig, eu bod rhwng 16 ac 80 oed ac fod ganddynt rywun cyfrifol i ofalu amdanynt wedi iddynt gael eu rhyddhau o’r uned.

Mae’r uned yn cefnogi’r arbenigeddau canlynol:

  • Llawfeddygaeth gyffredinol
  • Gynaecoleg
  • Orthopaedeg
  • Y Geg
  • Llawfeddygaeth Blastig
  • ENT
  • Mân lawdriniaethau’r Frest
  • Anaesthetig
  • Pelydr X
  • Profion meddygol

Mewn wythnos, caiff cyfartaledd o 120 o gleifion archwiliadau endosgopig a mae rhwng 30 a 35 o gleifion ar gyfartaledd yn cael llawdriniaethau.

Wrth gyrraedd yr uned bydd cleifion yn cael eu hebrwng i fan cyn-llawdriniaeth, ble y cânt eu derbyn i’r uned. Cânt eu prosesu trwy’r adran briodol ar gyfer eu triniaethau.

Yn ystod eu hadferiad bydd cleifion yn cael eu nyrsio yn gyntaf yn y man adferiad cam 1 (all gymryd 12 o gleifion a sydd ag ocsigen a sugnydd o’r wal). Pan fo’r claf wedi dod ato’i hun yn ddigonol bydd yn cael ei hebrwng i’r man adferiad cam 2. Mae cyfleusterau yn cynnwys cadair orwedd, te, coffi a theledu. Bydd pob claf sy’n cael Llawdriniaeth Gyffredinol yn cael diodydd a brechdanau cyn gadael yr uned.

Unwaith y bo’r gofalwr penodol wedi cyrraedd i gasglu’r claf, bydd nyrs gymwysedig yn cychwyn mynd trwy’r broses cynllunio rhyddhad. Mae’r dull y maent wedi’i dderbyn unwaith eto yn cael ei esbonio yn fanwl wrthynt a bydd y nyrs yn trefnu gofal ar ôl mynd adref os bydd angen.

Yr amser a dreulir yn yr uned ar gyfartaledd ar gyfer archwiliad endosgopig yw 4 awr ond mae hyn yn codi i 6 awr os yw’r claf wedi derbyn Anaesthetig Cyffredinol.

Ysbyty Cyffredinol Llandudno

Mae uned Endosgopi Llandudno yn darparu gwasanaethau diagnostig a rhai gwasanaethau therapiwtig i’r gymuned gan gynnwys sesiynau Un Cam Rectal a sesiynau Agored i’r meddygon teulu. Mae’r gwasanaethau Lithotripsi hefyd yn defnyddio’r adran.




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS