North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 06 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Llun adran Gwybodaeth - Orthoptydd
Gwybodaeth > Gwybodaeth Ysbytai > Patientline
GWYBODAETH YSBYTU : Patientline            
 

System adloniant a chyfathrebu wrth ochr y gwely ydy Patientline ac mae’n rhoi dewis eang o sianeli teledu i gleifion ac yn eu galluogi i gadw cysylltiad â ffrindiau a pherthnasau ar y ffôn.

Gwneir hyn drwy uned bwrpasol wrth ochr y gwely ac mae’n cynnwys teledu, radio, ffôn, peiriant ateb, uned sain a chlustffonau, a pheiriant darllen cerdyn talu. Drwy’r uned wrth ochr y gwely, gall Patientline gynnig amrywiaeth o wasanaethau adloniant sef o leiaf 16 sianel deledu a 6 sianel radio gan gynnwys radio’r ysbyty. Cyn bo hir, bydd y Rhyngrwyd a gemau ar y system, yn dilyn treialon llwyddiannus mewn safleoedd eraill.

Gall cleifion hefyd ffonio allan a derbyn galwadau ar eu huned bersonol wrth ochr y gwely.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru wedi gosod system Patientline wrth ochr bob gwely yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Cyffredinol Llandudno. Codir tâl am ddefnyddio’r teledu a’r ffôn. Ond mae’r radio am ddim, ac mae rhai cyfleusterau ar y teledu y gall cleifion eu defnyddio am ddim.

Pan fyddwch chi’n cyrraedd

Unwaith y caiff cleifion eu derbyn i’r ysbyty, bydd angen iddynt gychwyn y system Patientline. Mae hyn AM DDIM. Mae angen codi’ch ffôn wrth ochr y gwely, pwyso “OPERATOR” ac yna pwyso “1”. Bydd y teleffonydd yn eich cofrestru ac yn rhoi rhif pedwar digid i chi. Y rhif yma ydy’ch rhif ID personol a gallwch ei weld ar sgrîn y teledu pan fyddwch chi’n codi’ch ffôn.

Os ydych chi’n dymuno, bydd Patientline yn rhoi’ch rhif pedwar digid i’ch ffrindiau a’ch teulu drwy neges wedi ei recordio, deialwch “11” ac yna’r rhif ffôn llawn. Mae’r gwasanaeth yma am ddim ac mae modd ei ddefnyddio mor aml ag yr ydych chi’n dymuno.

Os ydych chi’n symud gwely neu ward, bydd y rhif yma’n mynd efo chi. Yr unig beth sydd rhaid ei wneud yw galw’r teleffonydd pan fyddwch chi’n gadael un gwely ac eto pan fyddwch chi’n cyrraedd eich gwely newydd.


Gwasanaethau ar gael

Ffôn

Pan ydych chi’n cofrestru byddwch yn cael un galwad ffôn 2 uned gwerth 20 ceiniog am ddim

Gall ffrindiau a pherthnasau eich ffonio chi’n syth ar 07041 18 0050 ****. Mae’r pedwar rhif olaf yr un fath â’ch rhif ID personol, a roddwyd i chi wrth gofrestru.

Iddynt hwy bydd galwadau’n costio 49 ceiniog y funud ar amseroedd brig a 39 ceiniog y funud ar amseroedd tawel.

Gallwch ffonio allan drwy ddefnyddio ‘smartcard’ sydd ar gael o beiriannau gwerthu Patientline wrth bob ward ac mewn lleoedd eraill fel derbynfeydd. Mae ‘smartcards’ yn costio £3.50 (35 uned), £5.00 (50 uned) a £10.00 (100 uned).

Mae gan y cardiau £10.00 10 uned ychwanegol am ddim. Bydd galwadau cenedlaethol yn costio 10 ceiniog am 58 eiliad. Mae ffonau symudol, cyfradd premiwm a rhifau rhyngwladol ar gyfradd uwch.

Defnyddir y ‘smartcards’ ar gyfer yr holl wasanaethau sydd ar gael ar yr uned wrth ochr eich gwely.

Radio

Gallwch ddefnyddio’r radio AM DDIM, ond rhaid i chi gofio cofrestru’n gyntaf.

Teledu

Unwaith yr ydych wedi cofrestru, cewch 30 munud o deledu am ddim ar unrhyw sianel o’ch dewis. Hefyd, gallwch wylio teledu brecwast (8.00am i 9.00am) am ddim. Os ydych am wylio’r teledu bydd angen prynu cerdyn teledu, ar gael o beiriannau gwerthu Patientline. Y mwyaf y byddwch chi’n talu am ddiwrnod o wylio yw £3.20.

Mae gan gleifion dros 60 hawl i wylio am hanner pris; £1.60 y dydd ar y mwyaf. Dywedwch hyn wrth y teleffonydd pan fyddwch chi’n cofrestru. Mae’r un peth yn wir pan fyddwch chi wedi cofrestru am fwy na 14 diwrnod.

Gemau a mynediad at y rhyngrwyd

Bydd y rhain ar y system cyn bo hir, yn dilyn treialon llwyddiannus mewn safleoedd eraill.

Cwestiynau eraill mwyaf aml

Beth os nad oes gen i’r arian cywir?

Mae’r peiriant Patientline yn derbyn arian papur ac yn rhoi newid.

Beth os nad oes gen i arian parod?

Mae Patientline yn derbyn cardiau credyd/debyd; pwyswch y botwm ‘operator’ i roi manylion eich cerdyn.

Beth os ydw i’n gaeth i’r gwely?

Pwyswch y botwm ‘operator’ yn ystod oriau gwaith a gofynnwch am gael danfon cerdyn i ochr eich gwely. Does dim tâl ychwanegol am y gwasanaeth yma.

Darperir y gwasanaeth unigryw yma gan Patientline heb unrhyw gost i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Am ragor o wybodaeth am Patientline ewch i http://www.patientline.co.uk
 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS