Mae Ward Glyder yn ward Gardioleg 18 gwely yn Ysbyty Gwynedd. Mae'r cleifion ar y ward hon dan ofal 3 Meddyg Ymgynghorol llawn amser sy'n arbenigo mewn problemau cardiaidd. Mae cleifion yn medru cael triniaeth arbenigol arall, os bydd angen, yn Ysbyty Brenhinol Manceinion ar gyfer triniaeth megis Angioplasti a'r Labordy Catheter yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ar gyfer Angiograffi. Cynhelir clinigau i gleifion allanol yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Cyffredinol Llandudno a mae Meddyg Ymgynghorol ar ymweliad o Ysbyty Brenhinol Manceinion yn rhedeg clinigau wythnosol yn Ysbyty Gwynedd. Mae gwasanaethau Nyrs Arbenigol Adfer y Galon ar gael i gleifion. Uned Gofal Coronari Mae Uned 6 gewly yn Ysbyty Gwynedd ac Uned 3 gwely yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno. Mae'r ddwy Uned yn cynnwys nyrsys a hyfforddwyd i lefel uchel ac offer monitro modern.
|
|