Pob haf bydd miloedd yn gobeithio am dipyn o haul wrth iddyn nhw heidio dramor am eu gwyliau. Bydd cyfran helaeth yn dewis teithio mewn awyren ac oherwydd bu cryn dipyn o sôn am y cyswllt rhwng teithio mewn awyren - yn enwedig ar siwrnai hir - a'r posibilrwydd o gael DVT (Deep Vein Thrombosis) yn y wasg a'r cyfryngau. Mewn gwirionedd gall amrywiaeth o ffactorau achosi DVT sef cyflwr lle mae clot yn ffurfio mewn gwythïen yn y goes. Gall ddigwydd weithiau yn dilyn llawdriniaeth er enghraifft neu yn dilyn unrhyw fath o drawma i gyhyr neu asgwrn yn y corff. Mae dwy nyrs DVT arbenigol, wedi eu lleoli yn Ysbyty Gwynedd, yn gweithio oddi mewn i Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ers mis Ionawr 2001 gan hwyluso'r broses i gleifion sy'n dioddef o DVT. Datblygwyd y gwasanaeth y mae'r Ymddiriedolaeth yn ei gynnig yn y maes yma ymhellach gyda ffurfio tîm o nyrsys yn y gymuned. Ar ôl diagnosis yn yr Ysbyty, bydd cleifion sydd â DVT yn cael eu gweld yn eu cartrefi a bydd triniaeth yn cael ei roi iddynt yno yn ôl yr angen. Mae'r tîm hwn yn un o nifer fechan iawn o rai tebyg sy'n gweithio yng Nghymru. Mantais y system hon o ymweld â chleifion yn eu cartrefi yw'r ffaith fod rhai sydd mewn ardaloedd mwy anghysbell na'i gilydd yn gallu cael gofal heb orfod teithio o gwbl, a bod modd hefyd cael triniaeth ar y penwythnosau. Rhai symptomau o DVT: Chwyddo anarferol yn yr aelod sydd wedi cael ei effeithio Poen sylweddol a thynerwch lleol Gwres uchel yn yr aelod
|