North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 06 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cyfarwyddiaeth Meddygol > Dermatoleg
MEDDYGOL : Dermatoleg            
 

Mae 2 Dermatolegydd Ymgynghorol llawn amser yn gwasanaethu Ysbyty Gwynedd.  Yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno mae un Dermatolegydd Ymgynghorol sy'n ymweld i helpu efo clinigau cleifion allanol yn ardal Llandudno.  Mae chwe gwely i gleifion mewnol ar gael yn Ward Tegid, Ysbyty Gwynedd.

Cynhelir clinigau cleifion allanol a sesiynau biopsi yn:

  • Ysbyty Gwynedd
  • Ysbyty Cyffredinol Llandudno
  • Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli
  • Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi
  • Ysbyty Coffa Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog
  • Ysbyty Eryri, Caernarfon

Mae dwy Nyrs Arbenigol Dermatoleg yn rhedeg sesiynau clinig i gleifion allanol.

Ychwanegiad diweddar i'r gwasanaeth dermatoleg yw Teledermatoleg.  Mae hwn yn gweithredu o ysbytai Bryn Beryl a Penrhos Stanley ac wedi ei gysylltu ag Ysbyty Gwynedd.  Math o delefeddygaeth yw teledermatoleg - os oes gennych nam ar y croen ac yn mynychu apwyntiad yn eich ysbyty cymuned, yno maen nhw'n medru cymryd llun digidol yn ystod eich ymgynghoriad a'i anfon efo e-bost diogel at Feddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd.

  Staff Meddygol Ymgynghorol

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS