Os buoch chi'n dioddef gan y ffliw yn ddiweddar, neu os buoch chi'n teimlo dan y don oherwydd mân anwydau neu anhwylderau yn ymwneud â'ch brest er enghraifft, gall yr adeg hon o'r flwyddyn fod yn ddigon anodd.
Os mai felly y bu hi, cymrwch gysur. Mae cymorth ar gael gan y rhai sy'n gweithio yn y maes ac mae yna gamau y gallwch eu cymryd eich hun hefyd i ofalu am eich iechyd.
I'r rhan fwyaf ohonom, salwch digon diflas yw'r ffliw sy'n golygu fod yn rhaid treulio ychydig ddyddiau yn eich gwely. Ond i eraill, yn enwedig pobl hyn a rhai mewn grwpiau bregus, gall fod yn ddifrifol iawn. Yng Nghymru mae tua 200 o bobl yn marw bob blwyddyn oherwydd cymhlethdodau wedi eu hachosi gan y ffliw.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhedeg ymgyrch flynyddol i annog pobl yn y grwp oedran 65 a throsodd i gael brechiad rhag y ffliw. Y llynedd llawer o'r rhai yn y grwp oedran hwn ar y cyfle a'r gobaith yw y bydd mwy eto wedi penderfynu mynd amdani eleni.
Mae'n bwysig bod pobl sydd mewn grwpiau bregus yn cael eu brechu. Mae'r rhain yn cynnwys pobl sydd â chlefyd cronig ar y galon neu ar y frest gan gynnwys asthma; bronchitis cronig; clefyd cronig yn yr arennau; clefyd siwgr; imiwnedd is oherwydd clefyd neu driniaeth fel moddion steroid neu driniaeth ganser; unrhyw anhwylder meddygol difrifol. (Holwch eich meddyg os ydych chi'n ansicr a ddylech chi gael eich brechu ai peidio).
Rhaid cael brechiad bob blwyddyn er mwyn gwneud yn siwr eich bod yn cael eich amddiffyn yn effeithiol rhag y ffliw. Y cyngor yw i chi gael eich brechu rhag y ffliw mewn digon o bryd cyn y gaeaf.
Adeg prysur o'r flwyddyn
Oherwydd y peryg' o ffliw mae'r gaeaf yn medru bod yn arbennig o anodd i'r rhai hynny sy'n dioddef oherwydd cyflyrau cronig yn ymwneud â'r ysgyfaint.
Cyfuniad o'r tywydd - pryd y mae hi'n debygol o fod yn oer a thamp - a'r ffaith fod mwy o bugs o gwmpas sydd i gyfri am hyn. Oherwydd bod gan y bobl yma gyflwr cronig maen nhw hefyd yn fwy tebygol o gael heintiau.
Yn gyffredinol ein cyngor ni i gleifion sydd mewn perygl o gael y ffliw ydi i gael brechiad. Mae'n bwysig bod pobl yn gwneud apwyntiad ymlaen llaw i weld y nyrs yn eich meddygfa ynglyn â hyn. Mae'n bosib hefyd i gleifion gael eu brechu rhag niwmonia.
Mae'n holl bwysig bod cleifion yn cymryd eu meddyginiaeth arferol fel y maen nhw i fod i wneud hefyd ac mae bwyta'n iach yn bwysig gan fod hyn yn effeithio ar y system imiwnedd yn gyffredinol.
Helpu eich hun
Cadw'n gynnes:
Os yw gwres y corff yn gostwng o dan tua 37 gradd C (98.4 gradd F) nid yw mor effeithiol. Os yw'r gwres yng nghanol y corff yn gostwng o dan 35 gradd C yna mae'r unigolyn hwnnw'n dioddef o hypothermia. Wrth i bobl fynd yn hyn mae gallu'r corff i gynhyrchu gwres yn medru lleihau oherwydd problemau symud neu salwch fel cyflwr calon all arwain at fywyd mwy llonydd.
Y gwres sy'n cael ei argymell ar gyfer stafell fyw yw 21 gradd C (tua 70 gradd F).
Cadw'n heini:
Yr adeg yma o'r flwyddyn yn enwedig mae ymarfer yn allweddol. Heblaw am y manteision tymor hir, gall ymarfer hefyd ein cadw'n gynnes a lleihau'r risg o hypothermia.
Does dim rhaid i'r ymarfer fod yn egnïol. Mae gweithgaredd cymhedrol ddwywaith yr wythnos yn medru gwella balans ac ystwythder a chryfhau'r esgyrn a'r cymalau. Gall hyn gynnwys cerdded sionc, nofio, garddio - a hyd yn oed waith ty!
Rhoi'r gorau i ysmygu:
I'r rhai sy'n trio'r rhoi'r gorau i ysmygu, gall fod yn anodd ar y dechrau. Dyma rai ffeithiau ynglyn ag effaith ysmygu ar y corff all fod yn sbardun i ddal ati:
Ymhen 20 munud wedi i chi smygu eich sigaret diwethaf, bydd eich pwysedd gwaed a'ch pwls yn ôl i normal. Yn ei dro bydd hyn yn gwella cylchrediad y gwaed yn eich dwylo a'ch traed ac fe fyddan nhw'n teimlo'n gynhesach.
Ymhen 48 awr bydd eich gallu i flasu ac arogli wedi gwella.
Ymhen 72 awr byddwch yn anadlu'n rhwyddach ac erbyn y 12fed wythnos bydd eich cylchrediad yn gwella.
Cofiwch: Os ydych am roi’r gorau i ysmygu mae cymorth ar gael. Mae’r tim atal ysmygu yn gweld pobl ledled ogledd Cymru. Gallwch siarad efo’ch nyrs am gyngor i roi’r gorau iddi neu gallwch gysylltu efo’r tim yn uniongyrchol ar 01352 755543. |