North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 06 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cyfarwyddiaeth Meddygol > Oncoleg a Haematoleg Glinigol
MEDDYGOL : Oncoleg a Haematoleg Glinigol            
 

Triniaethau traddodiadol a chyflenwol yn cydweithio i helpu cleifion

Mae derbyn y newyddion eich bod yn dioddef o ganser yn rhywbeth digon anodd i ddygymod ag ef ar y gorau ac er fod cysur i'w gael yn y ffaith fod triniaethau effeithiol iawn ar gael i ddelio â'r salwch yma erbyn hyn gall fod yn gyfnod digon anodd i'r sawl sy'n mynd drwy'r profiad - ac i'w teuluoedd.

Mae Uned Alaw yn ganolog i'r gofal sy'n cael ei ddarparu ar gyfer cleifion â chanser yn ardal Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Orllewin Cymru. Ond yn ogystal â'r triniaethau 'traddodiadol' mae'r Uned hefyd yn cynnig triniaethau cyflenwol yn cynnwys aromatherapi ac ymlacio, a hynny ar sail reolaidd.

Nyrs yn Uned Alaw sy'n gyfrifol am drefnu'r therapi a'i roi ac ar sail yr ymateb a gafwyd mae'n amlwg fod galw mawr am driniaeth o'r fath.

Mae ystafell neilltuol ar gyfer therapi ar yr uned ond gall cleifion ei dderbyn naill ai yn yr uned ddydd neu yn eu hystafell ar y ward os ydynt yn gleifion mewnol. Mae'n wasanaeth rhad ac am ddim i’r claf.

Tylino therapiwtig:

Gall leihau tensiwn, lleddfu poen a helpu hefyd i ymlacio’r corff a'r meddwl heb achosi poen na chleisio.

Mae ymchwil wedi dangos y gall wneud pobl yn llai pryderus drwy arafu curiad y galon a'r pwysedd gwaed. Mae cyhyrau tynn yn llacio a'r meddwl yn teimlo'n llai dan bwysau. Gall hefyd helpu i leddfu poen cefn ac yn y cyhyrau.

Gallwch gael tyliniad naill ai efo olewau neu heb olewau a bydd sesiwn yn para am tua 30 munud ond gall fod yn hwy neu'n fyrrach yn ôl anghenion y claf unigol.

Aromatherapi:

Bydd yn cael ei roi gydag olewau ag arogl da. Bydd eich therapydd yn cymysgu olewau yn ôl eich dewis a'ch anghenion arbennig chi. Planhigion yw sail yr olewau ac y mae gan bob un ei nodweddion ei hun.

Bydd rhai yn ysgogi'r system imiwnedd, gallant helpu i ymlacio, bydd eraill yn helpu i leddfu poenau yn y cyhyrau tra bydd eraill yn codi'r ysbryd ac yn bywiocáu.

  Staff Meddygol Ymgynghorol (Oncoleg)

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS