North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 06 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cyfarwyddiaeth Meddygol > Gofal Lliniarol
MEDDYGOL : Gofal Lliniarol            
 

Grŵp o swyddogion professiynol yw'r Tîm Gofal Lliniarol sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella'r gofal i gleifion sy'n byw gyda chanser ac afiechydon eraill sy'n bygwth bywyd, a'r gofal i'w teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae'r Tîm Gofal Lliniarol wedi'u hyfforddi yn y maes hwn.  Mae gwybodaeth a phrofiad y Tîm yn chwarae rôl bwysig yn y gofal mae'r cleifion hyn yn ei dderbyn ac mae'n ceisio eu helpu i wella ansawdd eu bywyd trwy'r salwch.

Mae'r Tîm Gofal Lliniarol wedi'i leoli ym Modfan, Ysbyty Eryri, Caernarfon.  Gellir cysylltu â'r Tîm o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.00 pm ar 01286 662775 neu 662776 ac yn Ysbyty Gwynedd ar 01248 384384, Estyniad 5121.

Mae'r Tîm Gofal Lliniarol yn darparu cyngor, cefnogaeth, gofal nyrsio a gofal dydd mewn rhai ardaloedd, cymorth gyda phroblemau ymarferol byw gartref gan gynnwys darparu cymhorthion a chyfarpar lle bo angen, help gyda symudedd, ymarferion a symudiadau ysgafn, triniaeth ar gyfer cyflyrau'r frest a thylino.  Darperir gofal lliniarol mewn ysbytai hefyd.

Mae'r Adran Gofal lliniarol yn gweithio gyda'r Tîm Gofal Iechyd Cychwynnol a phroffesiynau eraill sy'n ymwneud â gofal y claf a'i deulu ac yn eu cefnogi.

Gallwch wneud cais i'r Tîm Gofal Lliniarol trwy'r:

  • Meddyg Teulu
  • Y Nyrs Ardal
  • Meddyg Ymgynghorol yr Ysbyty
  • Staff eraill yr Ysbyty

neu

  • Trwy ffonio'r Tîm Gofal Lliniarol yn uniongyrchol (bydd eich Meddyg Teulu a'ch Nyrs Ardal yn cael eu hysbysu)

  Staff Meddygol Ymgynghorol

Taflenni Gwybodaeth i Gleifion

Adran Gofal Lliniarol

 

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS