North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 06 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Services > Medical Directorate > Respiratory Medicine
MEDDYGOL : Meddygaeth Resbiradol            
 

Mae'r Adran yn cynnwys dau Ffisigwr Ymgynghorol, 4 Nyrs Arbenigol Resbiradol, 2 Nyrs Arbenigol Prawf yr Ysgyfaint, 1 Ffisiolegydd Clinigol - Meddygaeth Cwsg, a 2 Ysgrifenyddes Feddygol.

Mae'r adran yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys clinigau a gynhelir gan Ymgynghorwyr yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Cyffredinol Llandudno, a Phwllheli.

Cynhelir Clinig Asesu Nebiwlydd bob wythnos gan y Nyrsys Arbenigol Resbiradol ac maent hefyd yn cynnal Clinig Sgrinio Cyswllt Twrbecwlosis a Chlinig Sgrinio Mewnfudwyr (sy'n asesu pobl sy'n dod i mewn i Ogledd Orllewin Cymru o wledydd lle bo TB yn gyffredin am imiwnedd i TB neu symptomau).

Gwasanaethau eraill a ddarperir gan yr adran yw triniaeth, addysg a chefnogaeth i gleifion sy'n dioddef o wahanol anhwylderau resbiradol gan gynnwys:

  • Asthma
  • COPD (broncitis cronig ac emffysema)
  • Bronciectasis
  • Canser yr ysgyfaint
  • Clefydau galwedigaethol yr ysgyfaint
  • Twbercwlosis (TB)
  • Diffyg Anadl tra'n Cysgu
  • Cleifion angen therapi ocsigen tymor hir (LTOT)
  • Cleifion angen asesiadau pellach o'r ysgyfaint
  • Mae'r adran yn cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau addysgiadol ac ymchwil a datblygiad fel ein bod yn gallu gwella'n barhaus y gwasanaethau a gynigir i gleifion.

    Efallai y bydd y cysylltiadau canlynol o gymorth:

    http://www.who.int/gtb/ am wybodaeth ar dwbercwlosis
    http://www.bacup.org.uk/info/specific-cancers.htm am wybodaeth ar ganser yr ysgyfaint
    http://www.asthma.org.uk/ am wybodaeth ar asthma
    http://www.lunguk.org/index.html am safwe Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint
    http://www.sleep-apnoea-trust.org/ am wybodaeth a chefnogaeth ar ddiffyg anadl tra'n cysgu
    http://www.brit-thoracic.org.uk/patient/disease.html safle resbiradol arbenigol ardderchog, ond hefyd yn cynnig gwybodaeth werthfawr i gleifion




    Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

    North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
    Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
       Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS