- Bob blwyddyn mae dros 100,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr yn cael eu strôc cyntaf
- Mae tua 10,000 o'r rhain dan oed ymddeol
- Strôc yw'r trydydd rheswm mwyaf cyffredin pam fod pobl yn marw yng Nghymru a Lloegr, ar ôl clefyd y galon a chanser
- Strôc yw'r rheswm unigol mwyaf am anabledd difrifol yng Nghymru a Lloegr gyda dros 300,000 o bobl yn cael eu heffeithio
Beth yw Strôc? Mae strôc yn digwydd pan fo amharu'n digwydd ar lif y gwaed i'r ymennydd. Mae strôcs yn digwydd pan fo clot gwaed yn cau arteri sy'n cario gwaed i'r ymennydd. Mae rhai strôcs yn digwydd oherwydd gwaedu yn yr ymennydd ac o'i gwmpas oherwydd fod llestr waed wedi hollti. Pan fo llif y gwaed yn cael ei amharu, mae'r celloedd yn yr ymennydd yn cael eu hamddifadu o ocsigen a maetholion eraill, gan greu difrod i rai celloedd tra bydd celloedd eraill yn marw. Cymorth gan dîm arbenigol o sawl maes Gall strôc effeithio ar unrhyw un o unrhyw oed, er fod rhai pobl â risg uwch nag eraill. Mae'r rhain yn cynnwys pobl â phwysedd gwaed uchel, rhai sydd wedi cael strôcs bychan, trawiad ar y galon neu sy'n dioddef oherwydd caledu yn yr arterïau. Wedi eu lleoli yn Ysbyty Gwynedd, mae Tîm Strôc craidd symudol ar gael sy'n cael ei arwain gan Feddyg Ymgynghorol a'i gydgysylltu gan Nyrs Strôc Arbenigol. Mae'r tîm hefyd yn cynnwys Cofrestrydd Arbenigol, Ffisiotherapydd, Therapydd Galwedigaethol a Therapydd Iaith a Lleferydd. Mae'r Rhestr Wirio Strôc, sy'n anelu at gyflymu'r broses yn gyffredinol, yn cael ei llenwi gan y tîm meddygol sy'n derbyn y claf yn yr Uned. Gan ddibynnu ar angen y claf unigol, bydd y tîm yn cyfeirio cleifion at staff arbenigol eraill wedyn, pobl fel dietegydd, gweithiwr cymdeithasol neu orthoptydd.(sy'n ymwneud â'r llygaid). Mae tri Gweithiwr Cymorth Teulu, sydd wedi eu lleoli yn ardaloedd Môn, Gogledd a De Gwynedd, hefyd yn cydweithio'n agos â'r tîm ac yn gweithio â'r cleifion a'u teuluoedd er mwyn rhoi cymorth yn y tymor hir. Mae'r tîm yn cydweithio'n agos â'r Adran Niwroseicoleg ym Mhrifysgol Bangor.
|