Mae'r Gwasanaeth Nyrsio Ardal yn darparu ystod eang o wybodaeth arbenigol o nyrsio yn y cartref, llety preifat neu'r awdurdod lleol, canolfannau / clinigau iechyd a meddygfeydd meddygon teulu, yn bennaf i gleifion sy'n methu â mynd i feddygfeydd Meddygon Teulu neu at Nyrsys Practis. Prif nod y Gwasanaeth Nyrsio Ardal yw trefnu a darparu gofal nyrsio medrus wedi ei seilio ar dystiolaeth sy'n angenrheidiol i gynnal cleifion a cefnogi gofalwyr yn eu cartrefi eu hunain neu mewn llety preswyl. |

|
Mae Timau Nyrsio Ardal yn gysylltiedig â Phractisus Meddygon Teulu o dan arweiniad Nyrs Ardal sydd â chymhwyster arbennig i asesu'ch anghenion chi fel unigolyn. Mae'r tîm yn cynnwys nyrsys cymwysedig a Chynorthwywyr Gofal Iechyd wedi eu hyfforddi.
Ar ôl cael ei gyfeirio, gall y claf ddisgwyl:
Asesiad personol o anghenion a chynllun gweithredu wedi ei ddatblygu ar gyfer yr anghenion hynny.
Gofal nyrsio medrus i bobl sy'n wael iawn, sy'n dioddef o salwch terfynol neu gronig, ond nad oes angen iddynt fynd i'r ysbyty.
Dysgu a chefnogi cleifion a'u gofalwyr, gan roi grym iddynt gael eu hannibyniaeth yn ôl mewn gweithgareddau bob dydd.
Cyngor ar iechyd personol a diogelwch yn y cartref.
Cyfeirio ar asiantaethau eraill gyda chydsyniad yr unigolyn.
Gellir cyfeirio at y Tîm Nyrsio Adral drwy practis eich meddyg teulu neu un o'r swyddfeydd ardal:
Ynys Môn |
01248 753110 |
Arfon |
01286 662780 |
Dwyfor |
01766 772135 |
Meirionnydd |
01766 772135 |
Dim oes rhaid cael caniatâd eich Meddyg i siarad â'r Nyrs Ardal.