North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 06 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cyfarwyddiaeth Ysbytai Cymuned ac Adsefydlu > Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol
YSBYTAI CYMYNED AC ADSEFYDLU: Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol            
 

Ffisiotherapi

  • Helpu cleifion i adennill neu gynnal eu gallu llawn o ran gweithredu, symud yn normal a ffitrwydd.
  • Drwy asesu, darparu triniaeth a chyngor i helpu leihau neu ddileu poen ac adfer annibyniaeth.
  • Atal derbyn i'r ysbyty a hybu rhyddhau'n gynnar.

Therapi Galwedigaethol

Mae Therapi Galwedigaethol yn broffesiwn gofal iechyd sy'n darparu gwasanaethau i bobl y mae eu gallu i weithredu o ddydd i ddydd wedi cael ei amharu.  Ymhlith y pethau sy'n achosi amhariaeth mae problemau corfforol, seicolegol neu ddatblygiadol a brofir gan bobl o bob oed.

Defnyddir gweithgaredd pwrpasol, sblintio, offer arbennig, hyfforddiant sgiliau, cwnsela ac addasiadau amgylcheddol i wneud y gorau o allu'r unigolyn i fod yn annibynnol yn eu bywyd bob dydd.

Yn lleol, nod y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yw:

  • Darparu ymyrraeth addas i fodloni anghenion yr unigolyn p'un ai a ydynt yn yr ysbyty, gartref, yn y gweithle, ysgol neu leoliad arall yn y gymuned.  Mae enghreifftiau'n cynnwys addysgu technegau newydd a darparu offer sy'n hwyluso annibyniaeth mewn gofal personol, lleihau rhwystrau amgylcheddol a darparu adnoddau i leihau straen
  • Hwyluso proses adsefydlu di-dor trwy gysylltu â chydweithwyr Therapi Galwedigaethol o fewn yr Ymddiriedolaeth, mewn Gwasanaethau Cymdeithasol ac mewn lleoliadau arbenigol
  • Cymryd barn cleientiaid a gofalwyr, canlyniadau archwiliadau perthnasol ac ymchwil i ystyriaeth wrth ddatblygu'r gwasanaeth




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS