Gyrfaoedd mewn Gwyddoniaeth Iechyd
Wrth feddwl am faes gofal iechyd bydd y rhan fwyaf ohonom yn tueddu i feddwl am feddygon a nyrsys yn y lle cyntaf. Er mor allweddol yw eu cyfraniad hwy mae’n hawdd anghofio weithiau am waith y gwyddonwyr yn y maes, y rhai sydd wrthi’n gweithio’n ddyfal yn y cefndir er mwyn dadansoddi cyflyrau gwahanol, yn gwneud darganfyddiadau newydd ac yn gweld sut y mae modd gwthio’r ffiniau, gwaith a fydd, yn y pen draw, o fudd i gleifion.
Nid yw’r wyddoniaeth sydd wrth wraidd y driniaeth yn beth mor amlwg i ni ar yr olwg gyntaf.
Ond meddyliwch am y pigiadau ‘na y mae pob un ohonom wedi eu cael ers yn blant neu’r broses o gael pelydr X wedi i chi gael codwm er enghraifft. Gwyddonwyr sydd wrth wraidd y ddau - y broses o lunio cynnwys y brechiad, y grefft o ddadansoddi lluniau pelydr X.
Mae gwyddonwyr a thechnegwyr yn rhan hanfodol o’r tîm gofal iechyd. Dyna chi achos fel Haint y Llengfilwyr er enghraifft. Mewn sefyllfa fel honno bydd timau o wyddonwyr yn gweithio gyda’i gilydd bob amser i ddarganfod sut a pham y digwyddodd haint o’r fath mewn ardal arbennig. Bydd rhai eraill yn gweithio i wneud yn siwr nad yw’n lledaenu, eraill yn helpu i ofalu am gleifion sy’n dioddef o’r haint yn barod, eraill wedyn yn trio gwneud yn siwr na fydd haint tebyg yn digwydd yn rhywle arall.
Gall gwyddonwyr gofal iechyd fod yn gwneud profion gwaed, yn dadansoddi meinwe i ddarganfod pa haint y mae claf yn dioddef ohono neu i gadarnhau symptomau claf neu gallant fod yn rhan o dîm trawsblannu sy’n rhoi cyfle newydd i rhywun gael bywyd iach. Maen nhw’n rhan hanfodol o unrhyw dîm iechyd oddi mewn i’r Gwasanaeth Iechyd.
Mae amrywiaeth helaeth o gyfleoedd gyrfa gwyddonol yn y Gwasanaeth Iechyd, o hyfforddiant i rai nad oes ganddyn nhw gymwysterau hyd yn hyn neu’n ddatblygiad gyrfa i’r rhai hynny sydd eisoes wedi ennill eu cymwysterau yn y maes gwyddonol.
Gallwch ymuno â’r Gwasanaeth Iechyd fel gwyddonydd gofal iechyd mewn meysydd arbennig os oes gennych chi radd mewn pwnc gwyddonol yn barod. Byddwch fel arfer yn cychwyn ar raddfa hyfforddi ac yn mynd yn eich blaen wedyn i weld beth yw’r cyfleoedd ar radd broffesiynol.
Os oes gennych chi lefel A gallwch ddilyn cwrs gradd penodol ar gyfer fferyllwyr neu radiograffeg diagnostig neu therapiwtig neu bydd y Gwasanaeth Iechyd yn eich cynorthwyo chi i gael cymhwyster technegol neu radd mewn gwyddoniaeth gofal iechyd arall drwy gyfuniad o swyddi dan hyfforddiant ac astudiaeth rhan amser.
Gall y rhai hynny sydd wedi llwyddo mewn pynciau TGAU neu’r hyn sy’n cyfateb neu brofiad gwaith perthnasol, ddechrau hyfforddi mewn disgyblaeth gwyddoniaeth gofal iechyd sy’n aml yn arwain at gymhwyster ffurfiol. O hynny ymlaen, byddant yn cael eu hannog i ymestyn a diweddaru eu sgiliau yn cynnwys mynd ymlaen i astudio am radd, gyda chefnogaeth y GIG.
Beth yw’r dewis?
Graddedigion yn y Gwyddorau: Gallwch fynd yn wyddonydd gofal iechyd os oes gennych chi radd yn y gwyddorau efo’r radd berthnasol i’ch dewis faes. Dyma rai o’r dewisiadau fyddai ar gael o ran swyddi: Gwyddonydd Awdiolegol a Therapydd Clyw; Gwyddonydd Biofeddygol; Peiriannydd Clinigol; Ffisegydd Meddygol.
Lefel A: Unwaith y mae gennych chi eich lefel A, gallwch astudio i fynd yn fferyllydd drwy gyrsiau gradd penodol - dyma faes sy’n datblygu gydol yr amser wrth i feddyginiaethau fynd yn fwyfwy cymhleth.
Mae radiograffeg yn opsiwn arall naill ai ar lefel diagnostig - darganfod clotiau gwaed yn y corff neu astudio datblygiad plentyn yn y groth er enghraifft - neu ar lefel therapiwtig - defnyddio’r dogn cywir o ymbelydredd i dargedu man lle mae haint er enghraifft.
Mae dewisiadau eraill i rai efo lefel A, yn cynnwys y cyfle i gael eich hyfforddi gan y GIG hyd at lefel gradd drwy raglen waith mewn adran berthnasol wedi ei gyfuno â gwaith cwrs rhan amser. O ran swyddi dyma rai o’r dewisiadau posib’: Peiriannydd Adsefydlu, Technegydd Arennol neu Awdiolegydd Technegol.
TGAU: Gallwch weithio tuag at fod yn dechnegydd gwyddoniaeth gofal iechyd yn y GIG.. Dyma fyddai rhai o’r dewisiadau o ddilyn y llwybr yma: Technolegydd Meddygol, Technegydd Fferyllol neu Gefnogaeth Labordy Clinigol. Byddwch yn dechrau gyda hyfforddiant mewn swydd a chyrsiau byr. Mewn nifer o achosion fel hyn gall hyfforddiant arwain at gymhwyster ffurfiol all arwain at radd os ydych chi’n dymuno.
Mae gwybodaeth bellach am yrfaoedd yn y Gwasanaeth Iechyd ar gael ar www.nhscareers.nhs.uk
|