Mae'r Gwasanaethau Paediatrig Llym yn cynnig darpariaeth ar gyfer amrywiaeth o salwch plentyndod, cleifion mewnol a chleifion allanol. Mae'r Uned yn cynnwys: Mae'r Uned yn derbyn cyfeiriadau gan feddygfeydd GP, Adran A&E, Tîm Paediatrig Cymuned i blant ar fynediad agored i'r ward, bydwragedd a chyfeiriadau o ysbytai eraill. Yr oedran ar gyfer derbyniadau yw genedigaeth hyd at 18 oed. Mae'r grwp hyn yn dibynnu ar ddewis y person ifanc a'r rheswm am ei dderbyn i'r ysbyty. Mae'r Uned yn gofalu am blant o bob arbenigedd yn cynnwys: Meddygol Orthopaedig ENT Llawfeddygol Dermatoleg Offthalmig Oncoleg
Daw plant i mewn am y diwrnod i gael gwahanol brofion, profion gwaed, sganiau neu belydrau-X. Mae'r nyrsys yn gweithio'n agos hefo'r labordai ac adrannau eraill i sicrhau fod y profion yn cael eu cynnal yn gywir a heb effeithio gormod ar y plentyn a'i deulu. Uned Asesu Uned 4 gwely yn ward Minffordd yw hon. Mae'n darparu ar gyfer yr holl dderbyniadau meddygol gan yr adran A&E ac yn uniongyrchol gan Feddygon Teulu. Mae'r Uned yn delio â derbyniadau dros gyfnod byr ac asesiad o gyflwr y plentyn. Gall y plentyn aros yno am hyd at 6 awr ac yna fe fydd y meddyg yn penderfynu a yw am dderbyn y plentyn i'r ward ar gyfer mwy o brofion neu adolygu ar gyfer ei ryddhau i fynd adref. Rhoddir mynediad agored 24 awr i'r holl blant yn yr Uned ar ôl eu rhyddhau lle gall y rhiant ffonio am gyngor os yw'n bryderus ar ôl mynd adref neu gael adolygiad pellach yn yr Uned. Caiff pob plentyn ei adolygu gan Gofrestrydd Paediatrig cyn ei ryddhau. Mae'r Uned yn symleiddio'r broses derbyniadau o'r ward er mwyn lleihau derbyniadau diangen a chyflymu'r amseroedd aros i blant sydd angen cael eu gweld gan feddyg. Cyfleusterau ar gyfer plant Chwarae a Hamdden Ceir ystafell chwarae dan oruchwyliaeth staff cymwysedig. Mae'n bosib i blentyn sydd ddim yn medru mynd i'r ystafell chwarae gael teganau, gemau neu ddeunyddiau celf a chrefft wrth ei wely. Pan mae'n braf mae'r plant yn medru defnyddio'r man chwarae y tu allan. Gall brodyr a chwiorydd fynd i'r man chwarae ond rhaid i oedolyn fod yno i'w goruchwylio.
Sesiynau Ysgol Cynhelir dosbarth yn y bore yn ystod tymor yr ysgol ac anogir y plant i gymryd rhan. Bydd yr athro yn cael arweiniad gan rieni / gofalwyr a'r staff nyrsio ar allu'r plentyn i ddod i'r sesiynau ysgol. Mae'n bosib gwneud cysylltiadau ag ysgol arferol y plentyn os oes angen. Staff Meddygol Ymgynghorol
|