North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 06 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cyfarwyddiaeth Merched a Theuluoedd > Ymwelwyr Iechyd
MERCHED A THEULUOEDD : Ymwelwyr Iechyd            
 

Nyrsys cymwysedig yw Ymwelwyr Iechyd sydd wedi cael hyfforddiant arbennig mewn Iechyd Plant a Hyrwyddo Iechyd / Addysg Iechyd.  Maen nhw'n gweithio naill ai o feddygfeydd neu glinigau yn y gymuned, ac yn cydweithio'n agos â gweithwyr proffesiynol eraill.

Bydd Ymwelwyr Iechyd yn cynnig cefnogaeth ymarferol a chyngor mewn gwahanol sefyllfaoedd.  Yn ogystal ag ymweld â babanod newydd a theuluoedd yn eu cartref, eu bwriad hefyd yw hybu iechyd yr holl gymuned trwy:

  • Adnabod anghenion iechyd yn y gymuned leol.
  • Cadw cysylltiad â rhieni cyn ac ar ôl geni.
  • Sefydlu partneriaeth unigryw â phob cleient i gynghori ar fagu plant, maethiad, datblygiad, rheoli ymddygiad, iechyd emosiynol a seicolegol e.e. iselder ar ôl geni ac atal afiechyd, haint ac anaf.

Bydd Ymwelwyr Iechyd hefyd yn cefnogi unigolion a theuluoedd gydag anghenion arbennig, yn rhan o'r rhaglenni sgrinio ac imiwneiddio ac yn cynllunio a hybu rhaglenni iechyd e.e. gweithgareddau grŵp.

Mae agweddau eraill o waith Ymwelwyr Iechyd yn cynnwys materion Amddiffyn Plant / Deddf Plant, problemau perthynas e.e. trais teuluol a chymryd rhan mewn ymchwil ac addysgu a hyfforddi myfyrwyr.

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS