North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 06 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cyfarwyddiaeth Merched a Theuluoedd > Nyrsys Ysgol
MERCHED A THEULUOEDD : Nyrsys Ysgol            
 

Nyrs gofrestredig yw Nyrs Ysgol sy'n gweithio fel rhan o dîm gyda'r meddyg ysgol, yr athrawon ac yn fwyaf pwysig, y rhieni a / neu'r gofalwyr.  Mae'r nyrs yno i helpu sicrhau fod iechyd y plentyn yn ei alluogi i gael y gorau o fywyd ysgol.

Mae'r nyrs yn gwneud hyn drwy:

  • Ddangos diddordeb ym mhob agwedd o fywyd y plentyn.
  • Addysgu a hybu iechyd da.
  • Sicrhau fod y rhaglen sgrinio yn parhau drwy gydol blynyddoedd ysgol y plentyn.
  • Dweud wrth rieni am unrhyw broblemau sy'n codi.
  • Gweld plant yn yr ysgol yn rheolaidd.
  • Bod yn hawdd siarad ag ef / â hi.

Mae'r nyrs yn medru rhoi cyngor ar:

  • Bwyta.
  • Ymddygiad.
  • Gordewdra.
  • Asthma.
  • Cysgu.
  • Gwlychu / baeddu gwely.
  • Hybu iechyd a ffordd iach o fyw trwy addysg iechyd a chyfweliadau iechyd.

Sgrinio:

  • Clyw.
  • Golwg.
  • Pwysau a thaldra.
  • Cynnal rhaglen imiwneiddio.

Ymweld:

  • Yn y cartref neu yn yr ysgol.

Mewn Ysgol Uwchradd:

  • Hybu iechyd drwy addysg iechyd.
  • Clinigau galw heibio - gwasanaeth cyfrinachol yn rhoi gwybodaeth a / neu cyngor ar unrhyw faterion iechyd.
  • Rhaglen imiwneiddio.

Sut i gael help

Os ydych yn bryderus am eich plentyn am unrhyw reswm, cysylltwch â ni.  Gallwch gysylltu â'ch Nyrs Ysgol trwy ysgol eich plentyn ney drwy'r cyfeiriadau isod:

Arfon:

Bodwrdda, Ffordd Dewi Sant, Caernarfon. Ffôn: 01286 684000

Ynys Môn:

Tŷ Derwydd, Ysbyty Cefni, Llangefni. Ffôn: 01248 753128 

Dwyfor:

Uned Iechyd Dwyfor, Yr Ala, Pwllheli. Ffôn: 01758 701000

Meirionnydd:

Y Lawnt, Dolgellau. Ffôn: 01341 423121

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS