Ward Heulwen, Ysbyty Gwynedd Mae Ward Heulwen yn uned asesu 10 gwely i bobl sy'n dioddef problemau sy'n gysylltiedig â'r cof. Mae'r tîm amlddisgyblaethol cyfan yn rhan o'r broses asesu a chyfraniad oddi wrth Nyrsys, Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Seicolegwyr a staff Meddygol. Gan fod nifer o ffactorau gan gynnwys iechyd corfforol, yn dylanwadu ar allu gwybyddol, mae'n rhaid i'r asesiad fod yn gyfannol. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar gynnal gweithgarwch, felly mae aelod o staff yn gweithio fel 'Trefnwr Gweithgareddau' gyda gweithgareddau sy'n cynnwys gwaith crefft, coginio, ymarfer corff ysgafn ac ymlacio. Nod y ward yw cwblhau'r broses asesu o fewn 2 - 6 wythnos a'i bwrpas yw darganfod beth yw gallu gwybyddol, corfforol a hunangymorth y cleient gyda'r bwriad o gynllunio pecyn ôl-ofal effeithiol. Gall hyn olygu y bydd y cleient yn cael dychwelyd adref gyda chefnogaeth, ond gall hefyd olygu y caiff y cleient ei drosglwyddo i Gartref Preswyl neu Nyrsio. Mae'r pecyn ôl-ofal yn cynnwys gwahanol fathau o staff cymuned felly mae'n bwysig i ni weithio'n agos â nhw, yn ogystal â gyda'r teuluoedd / gofalwyr. Mae'r rhan fwyaf o gleifion sy'n cael eu derbyn i Uned Heulwen yn anffurfiol, ond rydym yn gweld y rheiny sy'n cael eu cadw o dan adran o'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae'r ward yn gweithredu polisi drws ar glo o ganlyniad i'r ffaith y byddai llawer o'r cleifion mewn perygl pa baent yn rhydd i grwydro o'r uned heb hebryngwr. Ward Glasmor, Ysbyty Penrhos Stanley Adeiladwyd Glasmor yn unswydd fel ward gofal dementia yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi. Mae'r dalgylch yn cynnwys Ynys Môn ac ardal Arfon, Gwynedd. Mae gan y ward 15 o wlâu i gleifion sy'n dioddef o dementia a salwch eraill sy'n gysylltiedig â'r cof. Mae staff nyrsio'n ymgymryd ag asesiadau a thriniaeth barhaus, gan gynnwys gweithgareddau atgof, dargyfeirio a chorfforol. Mae 26 o staff nyrsio yno sydd hefyd yn cynnig cefnogaeth a chyngor i ofalwyr allai fod yn bryderus ac yn rhoi cyngor proffesiynol i wardiau eraill o fewn yr ysbyty. Maent yn ymrwymo i gydweithio â gofalwyr a theuluoedd. Mae Ffisiotherapi ar gael ar y ward a mynediad i'r Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol a Therapi Lleferydd. Mae'r ward yn gweithio'n agos â'r Timau Gofal Dementia Cymuned yn Ynys Môn ac Arfon. Mae gweithwyr yn ymweld â'r ward yn rheolaidd i gyfrannu at ac i adolygu gofal a chynlluniau risg ag i gynllunio ar gyfer pecynnau gofal y dyfodol. Ward Hafan, Ysbyty Bryn Beryl Mae Hafan yn ward 7 gwely yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli. Mae'n darparu cyfleusterau camu i lawr o Ward Heulwen, Ysbyty Gwynedd, wy'n caniatáu i raglenni triniaeth gael eu parhau a'u monitro cyn i gleientiaid gael eu rhyddhau. At hyn, mae'n cynnig ailasesiad i gleientiaid sy'n byw yn ardal Dwyfor a chanddynt ddementia, gan gysylltu'n uniongyrchol ag elfennau penodol o fewn cynllun gofal y cleient. Yn ogystal â hyn, mae Ward Hafan yn cynnig llefydd gofal 4 diwrnod i'r rheiny sy'n dioddef dementia gan weithredu dros saith niwrnod gan asesu ac adolygu pecynnau triniaeth yn barhaus. Uned Meirion, Dolgellau Mae Uned Meirion yn ward 9 gwely yn Ysbyty Dolgellau. Mae'n darparu cyfleusterau camu i lawr o Ward Heulwen, Ysbyty Gwynedd, gan ganiatáu i raglenni triniaeth gael eu parhau a'u monitro cyn i gleifion gael eu rhyddhau. Mae'r ward yn ailasesu cleientiaid sy'n byw yn ardal Meirionnydd a chanddynt ddementia, gan gysylltu'n uniongyrchol ag elfennau penodol o fewn cynllun gofal y cleient. |