Darperir Gwasanaethau Clinigol i droseddwyr a chanddynt anhwylder meddyliol gan y Gwasanaethau Seiciatrig Fforensig. Agorwyd Tŷ Llywelyn, Uned Diogelwch Canolig 25 gwely a adeiladwyd yn unswydd, ar |

|
safle Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan ym mis Hydref 1998. Mae'r Uned yn darparu triniaeth ac adsefydlu i gleifion y credir eu bod yn debygol o wella gyda'r cydbwysedd cywir o ofal a dychwelyd i'w cymunedau eu hunain yn y pen draw. Cymerir cyfeiriadau gan amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys y Gwasanaethau Iechyd Meddwl generig, y System Cyfiawnder Troseddol, Meddygon Teulu, Gwasanaethau Carchar, Ysbytai Arbennig a Gwasanaethau Cymdeithasol. Caiff gofal pob claf ei gynllunio a'i adolygu'n rheolaidd gan y tîm sy'n cynnwys Seiciatrydd Ymgynghorol, Nyrsys, Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion a Seicolegwyr. Ymhlith y cyfleusterau yn Nhŷ Llywelyn, mae: - 25 ystafell unigol wedi'u lleoli o fewn 3 ward
- Lolfa / ystafelloedd bwyta
- Ystafelloedd golchi dillad
- Ceginau
- Gerddi
- Campfa fawr ac ystafell ffitrwydd
- Ystafelloedd therapi creadigol
- Cyfleoedd i gael addysg
- Gweithgareddau hamdden
- Caplan sy'n ymweld â'r Uned
- Gwasanaethau Eiriolaeth Annibynnol
- Mynediad at Wasanaethau Deintyddol a Thrin Traed
- Ystafell Ymweld i Deuluoedd
- Ystafelloedd Celf a Cherddoriaeth
- Gweithdy llawn offer
| |
|