North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 06 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > cyfarwyddiaeth Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu > Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL AC ANABLEDD DYSGU : Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc            
 

Mae prif ganolfan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn Nhalarfon ym Mangor.

Mae'n wasanaeth yn y gymuned sy'n asesu, trin a rhoi therapi iechyd meddwl arbenigol i blant (o tua 5 oed), pobl ifanc a'u teuluoedd

Talarfon

Mae'r tîm amlddisgyblaethol arbenigol yn cynnwys staff o dri sefydliad: Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru, Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn.

Mae'r tîm yn cynnwys Seiciatryddion Ymgynghorol, Seicolegwyr Ymgynghorol, Uwch Nyrs, Uwch Therapydd Plant, Therapyddion Plant, Gweithwyr Cymdeithasol, Arbenigwyr Iechyd Meddwl Sylfaenol a'r Tîm Gweinyddol.  Mae'r staff clinigol yn gweithio gyda'i gilydd i ymateb i anghenion plant a chanddynt broblemau iechyd meddwl difrifol ac anhwylderau ymddygiad difrifol.

Mae Canolfan Anhwylderau Ymddygiad Plant a Theuluoedd ar safle Bryn y Neuadd, Llanfairfechan.  Hon yw'r cyntaf o'i math yng Nghymru ac mae'n galluogi i blant sy'n aflonyddu'n ddifrifol a'u teuluoedd gael eu harsylwi gan staff cymwys mewn sefyllfa ddomestig nodweddiadol. 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS