Darperir Gwasanaethau Anabledd Dysgu trwy 'Timau Cefnogi Cymuned' yn Arfon, Dwyfor, Meirionnydd ac Ynys Môn sy'n cynnwys Nyrsys Cymuned, Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Seicolegwyr a Ffisiotherapyddion. Mae pob tîm yn gweithio'n agos â chydweithwyr mewn Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol a Thimau Gofal Iechyd Sylfaenol, gan sicrhau bod anghenion iechyd pobl ag anabledd dysgu'n cael eu hystyried a'u bodloni'n gyson ac yn effeithiol. Mae'r Gwasanaeth Ymddygiad Heriol yn cynnwys dau dîm sy'n gweithio'n agos gyda'i gilydd ac yn darparu gwasanaeth i Gonwy yn ogystal ag ardaloedd Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru. Mae'r Tîm Cefnogaeth Ychwanegol (AST) yn wasanaeth cymuned, sy'n gweithio gydag oedolion a phlant sy'n ymddwyn yn heriol. Mae'n ychwanegol i staff y Timau Cefnogi Cymuned gan roi lefel ychwanegol o gefnogaeth drwy ddefnyddio sgiliau arbenigol ac arbenigedd y staff gyda'r grŵp cleient. Mae'r AST yn gweithio mewn cydweithrediad ag asiantaethau statudol eraill gan gynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg. Mae'r Gwasanaeth Ymyrraeth Brys (EIS) yn rhoi cefnogaeth i bobl ag Anableddau Dysgu sydd mewn argyfwng sy'n bygwth eu tynnu o'u cartrefi. Darperir cefnogaeth beribatetig yn eu cartrefi i geisio cynnal eu lleoliad cymuned ac mae tŷ tri gwely yn Nhregarth y gellir eu defnyddio ar gyfer arosiadau byr pan fo'u lleoliad cymuned yn torri lawr neu'n bygwth gwneud hynny. Hefyd, gellir cael ystod eang o wasanaethau eraill trwy'r EIS gan gynnwys Seicoleg, Seiciatreg, Therapi Lleferydd ac iaith, Ffisiotherapi a Nyrsio Cymuned. Ar hyn o bryd, mae rhaglen adsefyldu'n digwydd a fydd yn symud preswylwyr o Ysbyty Bryn y Neuadd i lety graddfa fechan ar draws Gogledd Cymru. Yn ystod y broses hon, mae anghenion unigol preswylwyr a staff yn cael eu hystyried yn ofalus. Mae rhan o'r cynllun yn cynnwys ehangu Gwasanaethau Ymddygiad Heriol (Cefnogaeth Ychwanegol ac Ymyrraeth Brys), a bydd y rhain yn parhau i gael eu cynnig ar draws Gogledd Orllewin Cymru. Unwaith y bydd y Cynlluniau Adsefydlu ac Ail-ddarparu wedi dod i ben, bydd Ysbyty Bryn y Neuadd yn parhau i fod yn bencadlys ar gyfer y gwasanaeth, a bydd rhai elfennau o'r gwasanaeth yn parhau i gael eu darparu ar y safle. Y rhain fydd Gwasanaeth Asesu a Thrin cleifion mewnol a datblygiad bach o dai ar gyfer rhai pobl a chanddynt anghenion gofal iechyd parhaus. Ar hyn o bryd, mae safle Bryn y Neuadd hefyd yn cynnal cyfleuster cleifion mewnol sy'n darparu gwasanaeth 'lleol' i gleientiaid lle byddant fel arall yn gorfod cael eu lleoli y tu allan i Ogledd Cymru. Mae gennym ddyletswydd ac ymrywmiad i sicrhau bod pobl a chanddynt anabledd dysgu yng Ngogledd Cymru yn cael gwasanaeth o'r safon gorau, yn seiliedig ar angen asesedig yr unigolyn. Mae Rheolaeth Glinigol yn darparu'r fframwaith ar gyfer datblygu a gwella gwasanaethau o'r fath, wedi'u darparu mewn lleoliadau arferol, lle bo hynny'n bosibl, a chan weithlu cymwys ac ymroddedig. |