Mae'r Gwasanaeth Seicoleg yn cynnwys Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT), Ymyrraeth Teuluol a modelau gofal sy'n hyrwyddo adferiad a byw yn y gymuned, fel ymyrraeth gynnar ac allgymorth pendant. Mae dulliau fel CBT ac ymyrraeth deuluol yn fyddiol i fleientiaid a theuluoedd o ran lleddfu symptomau, lleihau cyfraddau ailwaeledd a gwelliannau mewn gweithredu cymdeithasol. Mae ymyraethau seico-gymdeithasol yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth gadarn a chânt eu hargymell yn benodol yng nghanllawiau NICE ar gyfer sgitsoffrenia. Nod y gwasanaeth yw lledaenu arfer da trwy hyfforddiant, goruchwyliaeth glinigol, gwaith clinigol, prosiectau ymchwil lleol a chyfrannu at fforymau datblygu gwasanaethau. Mae'n gweithredu ar ddwy lefel eang: trwy gysyltu'n uniongyrchol â defnyddwyr gwasanaeth / gofalwyr ac, yn anuniongyrchol, trwy hyfforddi a goruchwylio staff iechyd meddwl. Mae baich achosion Gwasanaeth Ymyrraeth Seico-gymdeithasol yn cynnwys unigolion a theuluoedd o Wynedd ac Ynys Môn ac mae'r Gwasanaeth yn cyfrannu at redeg grwpiau therapiwtig yn Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd. Rydym yn trefnu hyfforddiant mewnol yn rheolaidd ar gyfer staff iechyd meddwl ac wedi cyfrannu at gyrsiau achrededig y Brifysgol, er enghraifft, hyfforddiant nyrsys cyn-gofrestru, hyfforddiant lefel gradd a diploma a hyfforddiant seicoleg clinigol. At hyn, mae'r gwasanaeth yn darparu goruchwyliaeth glinigol i staff cymuned a chleifion mewnol ar draws y Gyfarwyddiaeth. |