Bu argyfwng y traed a'r genau yn brofiad dirdynnol, nid yn unig i gymunedau cefn gwlad ond hefyd i nifer fawr o unigolion yn y cymunedau ffermio. Menter ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru a Grwpiau Iechyd Lleol Gwynedd ac Ynys Môn yw'r Gwasanaeth Cynghori Gofal Cychwynnol ac y mae'n ei gynnig ymhob un o’r 38 practis meddygon teulu yng Ngwynedd ac Ynys Môn a'r nod yw darparu gwasanaeth cynghori mor lleol â phosib' ac mewn man cyfarwydd, sef syrjeri'r meddyg. Lansiwyd y Gwasanaeth yn Ionawr 2002 i gynnig gwasanaeth cygnhori mewn practisiau meddygon teulu ac i helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan yr argyfwng traed a'r genau. Gall hyn gynnwys ffermwyr, milfeddygon, swyddogion amaethyddol, lladdwyr ac eraill a fu ynglyn â chael gwared ar anifeiliaid yn ogystal â phobl sy'n rhedeg busnesau sy'n gysylltiedig ag amaeth a thwristiaeth. Mae'r Gwasanaeth Cynghori, sy'n cael ei ddarparu gan gynghorwyr profiadol, yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol. Mae'r ddarpariaeth yma'n golygu y gallwn gynnig cymorth i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan yr argyfwng traed a'r genau. Gall pobl fod yn dioddef pryder, iselder, tymer flin, atgofion ingol o ddigwyddiadau yn ystod yr aryfwng traed a'r genau, trafferth cysgu a phroblemau eraill. Mae'r rhain i gyd yn adweithiau hollol normal i ddigwyddiadau anarferol, a gall cynghori helpu i'w lleddfu'n sylweddol. Gall chwilio am help yn gynnar atal y problemau yma rhag mynd yn rhywbeth tymor hir ac yn anos i'w datrys. I'r rhai hynny sy'n teimlo y gallant fod angen help o'r fath, y cam cyntaf yw gwneud apwyntiad i weld y meddyg teulu a all eu cyfeirio wedyn at y Cynghorwr Practis. Cynghori: y ffeithau - Beth yw cynghorwr? - Rhywun sydd wedi ei hyfforddi i helpu pobl ag anawsterau fel straen, pryder, iselder neu broblemau cysgu, a sy'n gweithio oddi fewn i godau arfer proffesiynol.
- Sut y gallant helpu? - Gall y cynghorwr cymwysiedig yn eich syrjeri leol helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan haint y traed a'r genau.
- Beth yw cynghori? - Teimlo'n bryderus, teimlo nad ydych chi'n delio â bywyd fel y byddwch chi fel arfer? Mae cynghori'n ddull o'ch helpu i ddeall y meddyliau a'r teimladau yma a'ch helpu i wneud synnwyr o'r hyn sy'n digwydd i chi, yn ogystal â'ch cynnal chi drwy gyfnod anodd yn ystod eich bywyd. Ni all cynghori ddatrys y problemau i gyd, ac weithiau nid dyma fydd y ffurf mwyaf priodol o help.
- Yn gyfrinachol - Bydd yr hyn a ddywedwch chi wrth y cynghorwr yn cael ei gadw'n gwbl gyfrinachol rhyngoch chi fel arfer.
- Beth yw'r cam nesaf? - Os fyddwch chi'n penderfynu eich bod eisiau gweld cynghorwr bydd angen i chi adael i'ch meddyg teulu wybod. Dim ond meddyg teulu all gyfeirio pobl at y cynghorwr. Yna byddwch yn cael cynnig apwyntiad gan y cynghorwr.
|