| Ystyr EEG yw Electo-Enceffalograffi, sef cofnodi'r newidiadau trydanol bach sy'n digwydd yn gyson yn yr ymennydd. Nid yw EEG yn driniaeth, ond prawf sydd mor ddiniwed â thynnu llun. Ni theimlir unrhyw effeithiau yn ystod nac ar ôl y prawf, ac mae'r profiad yn cymryd rhwng tua 40 a 60 munud. |

| Mae'r adran yn Ysbyty Gwynedd ac mae'n darparu ystod o archwiliadau niwroffisiolegol i oedolion a phlant yn ardal Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Mae'r archwiliadau hyn yn cynnwys cofnodion EEG arferol a chofnodion colli cwsg a gweithredoedd mwy cymhleth fel monitro cerdded, profi cuddni cwsg lluosog ac astudiaethau cwsg dros nos. Defnyddir offer EEG Digidol Cydamserol / Fideometri i gynnal pob archwiliad a gellir trosglwyddo'r offer i gleifion sydd mewn wardiau yn Ysbyty Gwynedd. Mae gan yr adran offer gliniadur symudol ar gyfer cleifion na allent deithio i Ysbyty Gwynedd ac mae'n darparu gwasanaeth EEG i unrhyw un o ysbytai / clinigau cymunedol y dalgylch. Gellir trefnu apwyntiadau yn eu cartref ar gyfer cleientiaid ag Anabledd Dysgu yn y gymuned. |
|