Mae'r Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau wedi'i anelu at bobl sy'n defnyddio unrhyw sylwedd (ac eithrio tybaco) a'r rheiny sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan ddefnydd unigolyn o gyffuriau neu alcohol sydd ag angen help, cefnogaeth neu gyngor. Mae'r gwasanaeth ar gael ledled Gogledd Orllewin Cymru a gall bobl gysylltu drwy ffonio (gweler 'Cysylltwch â Ni') neu drwy alw heibio i un o'n swyddfeydd. Rydym yn darparu ystod o wasanaethau trin camddefnyddio sylweddau generig ac arbenigol gyda phortffolio cynhwysfawr o ymyraethau effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Darperir y gwasanaeth hwn gyda chefnogaeth asiantaethau statudol, anstatudol a'r sector gwirfoddol. Dyfarnu Statws Achredu Uned Datblygu Arfer Cam II i Wasanaeth Camddefnyddio Sylweddau (SMS) drwy Brifysgol Leeds (Cyfadran Iechyd). Gwasanaeth Trin Cyffuriau
Gwasanaeth Trin Alcohol
Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Pobl Ifanc
Cyfiawnder Troseddol
Gwasanaeth Diagnosis Deuol
Ymchwil a Chyhoeddiadau
Cysylltwch â Ni
Cysylltiadau
Cafodd yr adran hon ei diweddaru ar: 21/11/06 |