North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 06 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Adrannau > Ystadau a Chyfleusterau > Arlwyo
YSTADAU A CHYFLEUSTERAU : Arlwyo            
 

I lawer ohonom, mae paratoi pryd gyda'r nos i bump neu chwech o bobl yn gallu bod yn dasg fawr, ond mae'r raddfa y paratoir prydau bwyd mewn sefydliad fel Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru yn anhygoel.

Mae cyfleuster arlwyo mwyaf yr Ymddiriedolaeth yn Ysbyty Gwynedd, ble mae bwyd yn cael ei baratoi a'i goginio mewn modd traddodiadol i dros bum cant o gleifion, deirgwaith y dydd. Hefyd darperir ar gyfer mil o staff ac ymwelwyr yn ein Bwyty.

Mae'r Bwyty yn agored:

Brecwast:        8.00 am - 10.30 am

Cinio:              11.30 am - 2.00 pm

Swper:             5.00 pm - 7.00 pm

(Bydd peiriannau lluniaeth ysgafn ar gael y tu allan i'r oriau hyn)

Mae llai o wasanaeth ar Ddiwrnod Nadolig a Dydd Calan.

Hefyd mae gan Ysbyty Cyffredinol Llandudno a'n Hysbytai Cymuned eu ceginau eu hunain ble caiff bwyd ei baratoi a'i goginio'n ffres.

Er mwyn annog cleifion i fwyta'n dda tra maent yn yr ysbyty mae'r Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i roi amrywiaeth a dewis digonol yn y fwydlen. Ar gyfer cinio a phrydau min nos mae pedwar dewis o brydau poeth ar gael yn ogystal â brechdanau a saladau.

Er mwyn darparu bwyd cynnes, maethlon i 28 o wardiau yn Ysbyty Gwynedd mae'r adran arlwyo yn gweithredu system "swp-goginio." Caiff bwyd ei baratoi a'i goginio mewn 32 swp gyfran yn barod i'w gweini cyn eu danfon i'r wardiau.

Mae maethiad da yn rhan bwysig o'u gwellhad i amryw o gleifion ac mae cynhwysion o ansawdd yn allweddol i hynny. Mae'r Adran Arlwyo yn gweithio'n agos gyda chyrff GIG a chyrff allanol eraill i sicrhau fod bwydydd o ansawdd da yn cael eu canfod a'u cyflenwi yn lleol. Yr ydym yn falch o fedru dweud, cyn belled ag y bo'n bosibl, ein bod yn gweithio gyda chynhyrchwyr lleol i gael ein cyflenwadau. Profwyd hyn gyda chyflwyno 'Cig Eidion Cymreig' ar ein bwydlen. Mae'n prif nwyddau yn cael eu ceisio trwy gontractau gyda'r GIG a byddwn yn arolygu pob eitem trwy gydol cyfnod y contract. I'n helpu yn y dasg hon byddwn yn defnyddio arbenigedd archwilwyr glendid a'r comisiwn cig a da byw.

O bryd i'w gilydd bydd Adran Arlwyo'r Ymddiriedolaeth yn cynnal "dyddiau thema" yn ei phrif Fwyty ble mae prydau arbennig yn cael eu paratoi i nodi dyddiad neu ddigwyddiad penodol megis Dydd Gwyl Dewi, Dydd Sant Ffolant, Calan Gaeaf ac ati. Hefyd dethlir digwyddiadau pwysig trwy'r flwyddyn h.y gweinir crempogau ar Ddydd Mawrth Ynyd, byns croes y Groglith ar adeg y Pasg ac wrth gwrs, y cinio Nadolig traddodiadol.

Mae gan yr Ystafell Fwyta yn Ysbyty Gwynedd "Man Chwarae i Blant" sy'n fan meddal diogel ble gall plant sy'n ymweld â'r ysbyty waredu'u hegni tra mae dad a mam yn mwynhau paned o de neu goffi. Mae llawer o staff o fewn yr ysbyty yn manteisio ar y cyfleuster hwn ar fin nosau pan fo un o'r rhieni sy'n gweithio yn gallu mwynhau eu hegwyl bwyd gyda'r teulu.

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS