Sefydlwyd yr Adran Cynllunio a Rheoli Perfformiad ym 1999, ac mae'n darparu swyddogaeth gorfforaethol trwy: - Gynllunio strategol a gweithredol
- Gynllunio gyda golwg ar gyfalaf a rheoli project
- Prosesau cynlluniau busnes a bidio
- Cynllunio brys, cynllunio ar gyfer lle a phwysau brys
- Rheoli Perfformiad
- Mentrau gweithio ar y cyd a phartneriaethau
Mae'r Adran yn cynhyrchu'r Adroddiad Blynyddol ar y cyd â'r Uned Cyfathrebu Corfforaethol, sy'n cynnwys crynodeb o weithgareddau'r Ymddiriedolaeth a'i chyfrifon blynyddol dros y flwyddyn ariannol flaenorol. Cliciwch i lawrlwytho'r Adroddiad Blynyddol 2006/07 Cynllunio a Rheolaeth Cyfalaf Mae gan yr Adran gyfrifoldebau penodol am goruchwylio a rheoli'r Rhaglen Cyfalaf Dewisol. Defnyddir y darniad hwn i ariannu offer newydd meddygol ac adnewyddu'r hen, uwchraddio / moderneiddio adeiladau presennol a datblygu adeiladau newydd. Yn ogystal, mae'r adran yn rheoli cynlluniau penodol a ariennir yn ganolog trwy'r Rhaglen Cyfalaf Cymru Gyfan. Mae'r achosion busnes canlynol wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac maent ar gael i'w gweld yn yr Adran Cynllunio Cyfalafol, Pencadlys yr Ymddiriedolaeth, Ysbyty Gwynedd, Bangor: - Achos amlinellol strategol ar gyfer isadeiledd trydanol Ysbyty Gwynedd - cymeradwyd Chwefror 2007.
Dylai pob gohebiaeth gael ei anfon at: Yr Adran Cynllunio a Rheoli Perfformiad Ysbyty Gwynedd Bangor Gwynedd LL57 2PW |
|