North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 05 Rhagfyr, 2008
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Adrannau > Ystadau a Chyfleusterau  [Amgylchedd ag Ynni : Arlwyo : Ysbyty Alltwen]
ADRANNAU : Ystadau a Chyfleusterau            
 

Mae’r Adran yn gysylltiedig â nifer fawr o brojectau adeiladu newydd gan gynnwys llawer o ddatblygiadau yn Ysbyty Gwynedd ac adeiladu ysbyty newydd ar gyfer gogledd Meirionnydd/dwyrain Dwyfor. Mae’n gyfrifol am reoli a chynnal 63 adeilad a darparu gwasanaethau fel porthoriaid ac arlwyo i’r Ymddiriedolaeth gyfan, Mae hefyd yn gyfrifol am reoli gwasanaethau glanhau holl adeiladau’r Ymddiriedolaeth. Y cyfrifoldebau ydy:

  •  Rheoli cyfleusterau gan gynnwys arlwyo a phorthoriaid
  •  Rhaglenni cyfalaf gan gynnwys adeiladau newydd
  •  Projectau Cyfredol
  •  Rheoli a chynnal ystadau
  •  Cludiant
  •  Telathrebu
  •  Rheoli gwastraff
  •  Storfeydd a Dosbarthu
  •  Gwasanaethau Lliain 
  • Amgylchedd ag Ynni

Mae adeiladau sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n dda, amgylchedd deniadol, glân, ar gyfer offer a gwasanaethau dibynadwy oll yn ffactorau sy’n dylanwadu’n bositif ar les cleifion a’r staff sy’n darparu eu hamrywiol ofal a thriniaethau.

Yn ganolog i hyn mae’r Adran Wasanaethau Gweithredol Gwaith, sy’n darparu’r gwasanaeth cynnal a chadw cyflawn i holl asedau’r Ymddiriedolaeth.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn eithaf mawr - gyda dros 132,000 metr sgwâr o lawr o fewn 63 eiddo. Mae nifer o ganolfannau iechyd, clinigau a chyfleusterau adnoddau iechyd meddwl yn ychwanegol at y tri ar ddeg o ysbytai a reolir.

Mae 480 o bobl yn gweithio yn yr Adran Ystadau a Chyfleusterau, sy’n cynnwys staff sy’n gweithio ar yr ochr gynllunio adeiladau newydd a'r rhaglen gyfalaf a’r gwaith cynnal a chadw sy’n digwydd yn ddi-ffwdan o ddydd i ddydd. Mae’r adran hefyd yn gyfrifol am yr holl wasanaethau glanhau, pothorion ac arlwyo.

Mae’r adran yn cynnwys unigolion sy’n gyfrifol am reoli contractau, cynllunio a chynnal a chadw ataliol a gynlluniwyd, cynnal a chadw heb ei gynllunio (ymateb i alwadau’r ddesg gymorth) a mân waith arall.                                                 

Ardal ddaearyddol fawr a gwledig

Fe ddigwydd y cyfan mewn ardal ddaearyddol fawr a gwledig. Mae'r gwaith cynnal a chadw yn y gymuned yn cael ei wneud gan ddau dîm, un wedi’i ganoli yn Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan sy’n gwasanaethu Ysbyty Cyffredinol Llandudno, gogledd Gwynedd yn gyfan ac Ynys Môn a thîm arall wedi’i ganoli yn Ysbyty Bron y Garth, Penrhyndeudraeth sy’n gwasanaethu Arfon, Dwyfor a Meirionnydd.

Trwy’r ddesg gymorth, mae’n goruchwylwyr yn delio gyda cheisiadau ddaw o’r ardal gyfan am drwsio ac adnewyddu a chaiff taflenni gwaith eu llenwi i’w rhoi i’r Crefftwyr, sy’n gwneud y gwaith yn ôl y cais amdano.

Diweddaru yn gyson

Mae’r Adran yn gyfrifol am gynnal a chadw offer cegin a thrydanol, cyfarpar diheintio, rhai cyfarpar meddygol a deintyddol ac mae rhywbeth mor syml yr olwg â baddon neu wely i gyd yn offer arbenigol sydd angen eu  cynnal a’u cadw.

Mae'r Adran yn gweithio i gynnal y safonau uchel er mwyn cwrdd â’r gofynion iechyd sy’n bodoli heddiw.  Mae adeiladau yn mynd yn hen ffasiwn yn fuan a rhaid i ni eu cadw yn addas a gweithredol er mwyn sicrhau fod ein hystâd yn symud gyda’r oes.

Projectau cyfredol yr Ymddiriedolaeth ar hyn o bryd yw:

  • Ysbyty Alltwen
  • Rhesymoli Gwasanaethau, Ysbyty Dolgellau
  • Estyniad i gyfleusterau Uwchsain yn Ysbyty Gwynedd
  • Ailwampio Adran Ffisiotherapi yn Ysbyty Blaenau Ffestiniog
  • Ailcampio Clinig Torasgwrn yn Ysbyty Gwynedd
  • Gosod Generaduron newydd yn Ysbyty Gwynedd

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS