North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 05 Rhagfyr, 2008
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Adrannau > Cyllid  [Cynllunio Ariannol : Cyfrifeg Sefydliadol : Trysorlys : Caffael / Cyflenwadau]
ADRANNAU : Cyfarwyddiaeth Cyllid            
 

Trwy adeiladu ar waith parhaus Bwrdd yr Ymddiriedolaeth a chyhoeddi'r Amcanion Corfforaethol, mae Cyfarwyddiaeth Cyllid yn sylweddoli fod angen cefnogi'r amcanion hyn ar lefel leol.

Mae'r Datganiad o Fwrdiad Cyfarwyddiaeth Cyllid yn rhoi braslun o'r gwahanol wasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth i ddiwallu anghenion cleifion:

"I ddarparu gwasanaeth cyfrifo a chyflenwi proffesiynol sy'n darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth gadarn, ragweithiol ac ariannol i'r holl Gyfarwyddiaethau yn yr Ymddiriedolaeth, gan sicrhau gwerth am arian bob amser trwy adeiladu ar gysylltiadau â deiliaid diddordeb mewnol ac allanol."

Mewn ymateb i Amcanion Strategol yr Ymddiriedolaeth, mae Cyfarwyddiaeth Cyllid wedi cynhyrchu nodau penodol i gefnogi a chyflawni'r amcanion strategol cyffredinol, ynghyd â gwella prosesau ac arferion yn y Gyfarwyddiaeth gyfan:

  • I gyrraedd targedau ariannol Llywodraeth y Cynulliad ac unrhyw safonau ariannol neu gyfrifeg deddfwriaethol eraill.
  • Darparu cefnogaeth ariannol a chyngor ar achosion busnes ar gyfer datblygiadau a mentrau newydd o natur refeniw a chyfalaf.
  • Sicrhau fod prosesau a gweithdrefnau'r Ymddiriedolaeth yn cael eu diweddaru'n barhaus i adlewyrchu ymrwymiad yr Ymddiriedolaeth i fod yn sefydliad blaengar.
  • Sicrhau fod yn Ymddiriedolaeth yn cyrraedd ei nodau rheoli perfformiad o ran cefnogi'r Cynllun Cenedlaethol a thargedau lleol trwy annog a chefnogi Cyfarwyddiaethau i gyrraedd eu targedau Gwella Costau a thargedau eraill tebyg.
  • Sicrhau fod rheolaeth gorfforaethol, rheoli risg a rheoli arian yn cydymffurfio â safonau rheolaeth fewnol, gan sicrhau fod yr Ymddiriedolaeth yn cael gwerth am arian, a lle bo angen, darparu hyfforddiant ariannol i staff nad ydynt yn gyfarwydd â'r maes i ddatblygu ymwybyddiaeth ar draws yr Ymddiriedolaeth.
  • Parhau i ddatblygu ac adeiladu ar gysylltiadau proffesiynol presennol â chyrff llywodraethol eraill, Byrddau Iechyd Lleol ac yn fewnol â'r holl Gyfarwyddiaethau.
  • Darparu cefnogaeth, anogaeth, hyfforddiant a mentora i'r holl staff o fewn y Gyfarwyddiaeth o ran cefnogi datblygiad proffesiynol a phersonol.
  • Parhau i wella safon ac effeithiolrwydd gwasanaethau a gynigir gan y Gyfarwyddiaeth a pharhau i adeiladu ar gysylltiadau â chyrff allanol.
  • Sicrhau fod staff y Gyfarwyddiaeth yn derbyn hyfforddiant ac yn datblygu sgiliau i'r lefel ddisgwyliedig, gan roi gwybodaeth a sgiliau angenrheidiol iddynt i allu cwblhau eu dylestwyddau ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn i gyflawni nodau'r Ymddiriedolaeth.
  • Cefnogi agenda moderneiddio'r Ymddiriedolaeth i gynnig cyfleusterau ac amgylchedd o safon uchel i gleifion a staff.

Mae'r Gyfarwyddiaeth Gyllid yn bwysig i weithrediad cyffredinol yr Ymddiriedolaeth ac wedi ei rannu i'r isadrannau canlynol:

   Cynllunio Ariannol

   Cyfrifeg Rheolaethol

   Trysorlys

   Moderneiddio Busnes

   Archwiliad Mewnol a Gwrth Dwyll

   Caffaeliad / Cyflenwadau

   Rhoddion

Dylid cyfeirio ymholiadau cyffredin cyllid at (01248) 384180 neu drwy e-bost i:  finance@nww-tr.wales.nhs.uk

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS