Yma, fe gewch fanylion am y gwasanaethau a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth. Yn amrywio o Ddamweiniau ac Achosion Brys i Ddermatoleg, Bydwreigiaeth i Ffisiotherapi a Seicoleg i Belydr-X. Darperir y gwasanaethau gan Gyfarwyddiaethau ac Adrannau. Cyfarwyddiaeth Llawfeddygaeth Darperir gwasanaethau i gleifion mewnol ac achosion dydd yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Llandudno ac mae yna theatrau, llawfeddygaeth dydd a wardiau yn y ddau safle. Darperir gwasanaethau i gleifion allanol yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Cyffredinol Llandudno, Blaenau Ffestiniog, Pwllheli, Dolgellau, ac Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi. Cyfarwyddiaeth Meddygol Mae’r Gyfarwyddiaeth Feddygol yn cydgysylltu amrywiaeth o wasanaethau dewisol a brys yn Ysbyty Gwynedd ac yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno, ac mae llawer o’r gweithgaredd yn ymwneud â derbyn achosion meddygol brys. Cyfarwyddiaeth Ysbytai Cymuned ac Adsefydlu Mae gwasanaethau’r ysbytai cymuned yn cynnwys gwelyau cleifion mewnol meddygon teulu, gwelyau adsefydlu a gwelyau gofal lliniarol. Mae’r ysbytai hefyd yn darparu dewis eang o wasanaethau i gleifion allanol, gan gynnwys archwiliadau diagnostig ac ymchwiliol. Cyfarwyddiaeth Diagnostig a Chefnogaeth Glinigol Yn y Gyfarwyddiaeth hon mae’r Adrannau Patholeg, Radioleg, Fferyllfa, Cleifion Allanol, Cofnodion Meddygol ac Adran Ysgrifenyddol Gwaith Cymdeithasol. Lleolir y gwasanaethau yma’n bennaf yn Ysbyty Gwynedd ac yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno, ond darperir gwasanaethau radioleg o rai lleoedd yn y gymuned. Cyfarwyddiaeth Merched a Theuluoedd Mae’r Gyfarwyddiaeth yn cynnig gwasanaeth integredig a chynhwysfawr i deuluoedd a phlant, a’i nod ydy hybu gofal o’r safonau uchaf posib i ferched, plant a’u teuluoedd. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn cyflogi tua 400 o staff sy’n gweithio mewn gwasanaethau llym a chymuned a hynny yn Ysbyty Gwynedd, mewn ysbytai cymuned, clinigau, meddygfeydd meddygon teulu, ysgolion ac yn y cartref. Cyfarwyddiaeth Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu Datblygwyd amrywiaeth cynhwysfawr o wasanaethau a chanddynt gysylltiadau cryf ag Awdurdodau Unedol a’r Sector Defnyddwyr a’r Sector Gwirfoddol. Mae’r Gwasanaeth Anabledd Dysgu yn Ysbyty Bryn y Neuadd yn darparu gofal tymor hir i oedolion ac mae Cynulliad Llywodraeth Cymru wedi ailgychwyn rhaglen adsefydlu i breswylwyr. Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion wedi eu hadeiladu o gwmpas timau cymuned a darperir gofal i gleifion mewnol yn Uned Hergest (uned lem), Uned Carreg Fawr (adesfydlu) ac mewn dwy uned gwelyau cefnogi yn Llangefni a’r Bermo. Darperir gwasanaethau clinigol i droseddwyr ag anhwylder meddwl yng Ngogledd Cymru gan y Gwasanaeth Seiciatrig Fforensig; agorwyd uned gadarn 25 gwely - Ty Llywelyn - yn Ysbyty Bryn y Neuadd yn 1998. Cyfarwyddiaeth Rheoli Nyrsio a Gofal Iechyd Ffurfiwyd y Gyfarwyddiaeth Rheoli Nyrsio a Gofal Iechyd o'r Gyfarwyddiaeth Nyrsio a'r Gyfarwyddiaeth Sicrhau Ansawdd a Safonau Clinigol. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn canolbwyntio ar brofiad y claf a chefnogi darparu gofal o safon uchel i gleifion.
ADRANNAU
|