Datblygu a Hyfforddi
Mae’r ffaith fod yr Ymddiriedolaeth wedi llwyddo i ennill y Wobr Buddsoddwyr mewn Pobl yn dangos ei hymrwymiad i sicrhau bod y staff i gyd yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae’r Uned Datblygu a Hyfforddi, ar safle Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan yn sicrhau y datblygir ac yr hyfforddir staff drwy amrywiaeth o gyfleoedd dysgu.
Mae gan yr Uned hefyd ddwy ystafell ddosbarth gyffredinol fawr, dwy ystafell ddosbarth arbennig ar gyfer trin â llaw, ystafell hyfforddi adfywio ac ystafell hyfforddi Technoleg Gwybodaeth. Mae dewis eang o gyrsiau ar gael gan gynnwys: TG, hyfforddiant Iechyd a Diogelwch, Trin â Llaw, Adfywio, hyfforddiant yn yr Iaith Gymraeg, hyfforddiant sgiliau rhyngbersonol, rhaglenni datblygu rheolaeth a Rhaglen Gyflwyno’r Sefydliad. Mae’r Uned yn Ganolfan Asesu City and Guilds achredig sy’n cynnig rhaglenni NVQ i staff.
Mae’r Uned hefyd yn annog recriwtio pobl ifanc leol i’r Ymddiriedolaeth drwy’r cynllun Cadet Nyrsio, sy’n galluogi iddynt symud ymlaen i Ddiploma/Gradd mewn Nyrsio.
|
|