Gwasanaethau mamolaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru
Ysbyty Gwynedd Ysbyty Gwynedd yw'r Ysbyty Cyffredinol Rhanbarthol lle mae'r mwyafrif o enedigaethau'n digwydd. Mae bydwragedd, nyrsys a staff meddygol yn cael eu hyfforddi yn yr ysbyty, ac efallai y bydd gan y staff cymwysiedig sy'n gofalu amdanoch fyfyrwyr yn gweithio gyda hwy. Mae 8 ystafell yn yr uned eni. Darperir gofal cyn-geni ac ar ôl y geni yn ward Llifon sydd â 30 gwely. Mae yno hefyd uned Gofal Arbennig all ofalu am 12 o fabanod. Ysbytai Cymuned Trafodwch yr opsiynau gyda'ch bydwraig gymunedol os gwelwch yn dda. Genedigaethau Gartref Mae bydwragedd cymuned lleol trwy Ogledd Orllewin Cymru yn darparu'r gwasanaeth hwn. Os ydych yn ystyried rhoi genedigaeth gartref, trafodwch hyn gyda'ch bydwraig os gwelwch yn dda. |
|