Ymchwil a Datblygiad
Cyflwyniad Mae Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru, fel rhan o’i hymrwymiad i arfer wedi ei seilio ar dystiolaeth, yn awyddus i annog a chefnogi ymchwil a datblygiad (YaD). Datblygwyd strategaeth YaD fanwl er mwyn i’r Ymddiriedolaeth allu gwella ei phroffil ymchwil, yn arbennig o ran ei henw fel canolfan treialon clinigol. Caiff pob Clinigwr ei annog i fod yn weithredol o ran ymchwil, a chyflwynwyd nifer o fentrau i hyrwyddo hyn:- Cynllunio Projectau Rhaid i holl waith ymchwil yr Ymddiriedolaeth gadw at brotocol penodol, wedi ei gynllunio’n dda. Mae cyngor ar gael ar holl agweddau cynllunio projectau, gan gynnwys llunio protocol, holiadur, taflen wybodaeth a ffurflen gydsynio. Mae pecyn gwybodaeth rhagarweiniol ar gael o’r Gyfarwyddiaeth Sicrhau Ansawdd a Safonau Clinigol. Pwyllgor YaD Prif bwrpas y Pwyllgor yw ysgogi ac annog gweithgaredd ymchwil sy’n gysylltiedig â meddygaeth ac iechyd yng Ngogledd Orllewin Cymru a thu hwnt. Mae’n gwneud hyn yn bennaf drwy ariannu ymchwil leol ar raddfa fechan, ond hefyd drwy roi cyngor a helpu i ddarparu cyfleusterau i ymchwilwyr. Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad blynyddol i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth. Arian Grant Ar wahân i brojectau sy’n gofyn am arian ar raddfa fechan – hyd at ychydig filoedd o bunnoedd fel arfer – mae’r Pwyllgor hefyd yn croesawu ceisiadau i ariannu projectau peilot. Anogir staff sydd heb lawer o brofiad o ymchwil os o gwbl i ymgeisio a rhoir pob cymorth iddynt. Mae’r Ymddiriedolaeth yn rhoi arian i’r Pwyllgor bob blwyddyn, ac ychwanegir ato arian o’r ardoll treialon cyffuriau masnachol yn ogystal â rhoddion elusennol. Ceisiadau am Grantiau Mae ffurflen gais a nodiadau cyfarwyddyd ar gael oddi wrth y Swyddog Rheolaeth Glinigol (YaD). Mae aelodau’r pwyllgor i gyd yn fodlon rhoi cyngor a chefnogaeth i ymgeiswyr. Fel arfer gwahoddir ymgeiswyr i gyfarfod o’r pwyllgor i drafod eu cynnig. Ysgoloriaeth O V Jones Mae Ysgoloriaeth £1,500 O V Jones yn cael ei roi’n flynyddol gan y Pwyllgor YaD i alluogi un o fyfyrwyr Prifysgol Cymru, Bangor ymgymryd â phroject ymchwil yn ystod gwyliau’r haf. Cafodd ei sefydlu i nodi Canmlwyddiant y Coleg a’i enwi ar ôl Mr O V Jones, cyn Obstetregydd a Gynaecolegydd Ymgynghorol ac aelod o Gyngor CPGC a wnaeth lawer i hybu cydweithrediad rhwng y Brifysgol a’r Awdurdod Iechyd. Mae mwy o fanylion ar gael oddi wrth y Swyddog Rheolaeth Glinigol. Cymeradwyaeth Pwyllgor Moeseg Mae’r Swyddog Rheolaeth Glinigol (YaD) yn gyfrifol am gyd-gysylltu Pwyllgor Moeseg Ymchwil Leol Gogledd Orllewin Cymru, a gall gynghori ar egwyddorion moesegol a’r drefn ar gyfer sicrhau cymeradwyaeth y pwyllgor moeseg. Dylai ymchwil sy’n defnyddio pobl, cofnodion neu gyfleusterau’r GIG gael eu harolygu gan y pwyllgor moeseg. Mae ffurflen gais a nodiadau cyfarwyddyd manwl ar gael. Cymeradwyaeth yr Ymddiriedolaeth Rhaid i bob ymchwil gael cymeradwyaeth yr Ymddiriedolaeth a’r Pwyllgor Moeseg cyn dechrau. Gellir ei sicrhau drwy’r Panel Arolwg Mewnol Ymchwil a Datblygiad, y mae ei fanylion ar gael oddi wrth y Gyfarwyddiaeth Sicrhau Ansawdd a Safonau Clinigol. Cyngor Ystadegol Mae’n hanfodol sicrhau cyngor arbenigol cyn gynted â phosib ar gyfer unrhyw broject sy’n ymwneud â dadansoddiad ystadegol. Mae gan yr Ymddiriedolaeth felly drefniant efo Gwasanaeth Cefnogi YaD Gogledd Cymru (NWRDSS) sy’n gallu cynghori a helpu ymchwilwyr. Mae mwy o fanylion ar gael oddi wrth y Swyddog Rheolaeth Glinigol (YaD). Cydweithredu efo cyrff eraill Mae’r Ymddiriedolaeth yn cydweithio ar faterion YaD efo amryw o sefydliadau, yn arbennig felly Canolfan Ymchwil Meddygaeth a Gofal Cymdeithasol (IMSCAR), Prifysgol Cymru, Bangor (UWB). Mae cysylltiadau agos efo Swyddfa Ymchwil a Datblygiad Cymru (WORD), Pwyllgor Ymchwil Gogledd Cymru a Gwasanaeth Cefnogi Ymchwil a Datblygiad Gogledd Cymru (NWRDSS). Mae rhagor o wybodaeth ar y gwasanaethau cefnogi a gynnigir gan NWRDSS ar gael oddi wrth y Swyddog Rheolaeth Glinigol (YaD). |