North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 11 Mawrth, 2010
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cyfarwyddiaeth Ysbytai Cymuned ac Adsefydlu > Ysbytai Cymuned > Ysbyty Tywyn
YSBYTAI CYMUNED AC ADSEFYDLU: Ysbytai Cymuned            
 

Ysbyty Tywyn - Cliciwch am fap lleoliad



Adeiladwyd yr ysbyty yn y 1920’au trwy danysgrifiad y cyhoedd er cof am y rhai a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd 1af. Gosodwyd y garreg sylfaen gan Mrs David Lloyd George ar 11 Awst 1920 ac agorwyd yr ysbyty gan Dr Alban Davies ar 17 Awst 1922. Adeiladwyd uned mamolaeth yn 1932.

Codwyd £32,000 gan Gronfa Apêl Ysbyty Tywyn ac ychwanegwyd ward gofal parhaus (Dyfi) a agorwyd yn 1973 gan HRH y Tywysog Phillip. Ymhlith y datblygiadau eraill a ariannwyd gan y Gronfa Apêl oedd adnewyddu Ward Gyffredinol Feddygol (Dysynni), adnewyddu’r Uned Mân Anafiadau a gwelliannau i’r brif fynedfa a’r Swyddfa Gyffredinol.

Wedi adolygu'r gwasanaethau yn Ysbyty Tywyn bydd mwy o waith adnewyddu yn 2007.  Bydd gan Ward Dyfi 6 gwely ychwanegol a bydd Ward Dysynni'n datblygu'n Ganolfan Therapi, gan gynnwys Therapi Galwedigaethol a Ffisiotherapi.

Meddygfa’r meddygon teulu lleol sy’n rhoi darpariaeth feddygol yn ystod oriau 08:30 i 18:30.  Wedi'r oriau hyn y Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau sydd yn darparu gofal. 

Mae'r Uned Mân Anafiadau ar agor o 09:00 i hanner nos dan ofal Ymarferydd Clinigol.  

Ysbyty Bronglais yw'r Ysbyty Cyffredinol Dosbarth agosaf.

Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru sy’n gyfrifol am reoli a darparu gwasanaethau cefnogi tra bo Ysbyty Bronglais, sy’n rhan o Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion, yn darparu meddygon ymgynghorol, gwasanaethau labordy a gwasanaethau cleifion allanol (ac eithrio Seiciatreg).

 

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS