North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 06 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Llun adran Gwybodaeth - Orthoptydd
Gwybodaeth > Newyddion > Archif Newyddion > Rhodd o offer gan Gyfeillion yr Ysbyty
NEWYDDION : Archif            
 

Yn ôl i'r Archif

Rhodd o offer gan Gyfeillion yr Ysbyty 16.06.04

Mae’r peiriant, sef BiPAP Synchrony, yn helpu cleifion i anadlu drwy fwgwd sy’n ffitio’n dynn dros yr wyneb. Yn y blynyddoedd diwethaf mae peiriannau o’r fath wedi hanneru cyfradd marwolaethau ac wedi golygu bod cleifion yn osgoi cyfnodau o awyriad yn yr uned gofal dwys a’r anawsterau sy’n gallu codi o hynny. Canlyniad hyn yw fod cleifion yn aml yn gwella’n gyflym, yn aros yn yr ysbyty am lai o amser ac yn llai tebygol o orfod cael triniaeth gofal dwys.

Yn ôl Dr Grant Benfield, Ffisigwr Ymgynghorol mewn Meddygaeth Resbiradol a Chyffredinol yn Ysbyty Gwynedd:

“Mae’r peiriant BiPAP yn awyrydd sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cleifion sy’n methu anadlu o ganlyniad i glefyd rhwystrol cronig y llwybr anadlu. Mae hwn yn gyflwr sydd fel arfer yn cael ei achosi gan flynyddoedd lawer o ysmygu. Ond gall ddigwydd weithiau i bobl a fu’n dioddef o asthma ers tro ac sy’n golygu bod y tiwbiau bronciol yn culhau o dipyn i beth, cyflwr nad oes modd ei newid.

“Mae’r cleifion dros 60 oed fel arfer ac yn cael eu derbyn yn aml i Ysbyty Gwynedd oherwydd diffyg gwynt difrifol o ganlyniad i fethiant yr ysgyfaint. Mae hyn mor ddifrifol weithiau fel bod angen awyriad ar y cleifion yn yr uned gofal dwys. Unwaith mae’r cyflwr wedi dirywio i’r fath raddau mae’r gyfradd marwolaethau’n sylweddol.”

Yn ôl Dr Benfield: “Rwyf yn ddiolchgar iawn i’r Cyfeillion am eu haelioni yn prynu’r peiriannau yma sy’n costio £12,000. Mewn blwyddyn gyffredin bydd yr ysbyty’n derbyn tua 650 o gleifion sy’n dioddef o broblemau anadlu difrifol. Dechreuwyd defnyddio’r peiriant newydd yma’n barod yn y Ward Resbiradol ac mae o wir les i’r cleifion sy’n dioddef yn ddifirfol o fethu anadlu.”

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS