North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 06 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Gwasanaethau > Cyfarwyddiaeth Rheoli Nyrsio a Gofal Iechyd > Rheoli Haint
Rheoli Haint            
 

Nod y Tîm Rheoli Haint yw lleihau'r risg o haint i gleifion a staff ac i sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau i atal a rheoli haint.

Mae'r Tîm yn cynnwys Meddyg Rheoli Haint, Nyrs Rheoli Haint Arweiniol, tri Nyrs Rheoli Haint a staff Rheoli Haint Cyswllt mewn meysydd clinigol.  Mrs Shirley Bough ydy Arweinydd Anweithredol Rheoli Haint yr Ymddiriedolaeth.

Mae'r Tîm yn gyfrifol am wylio, atal a rheoli haint yn 11 ysbyty'r Ymddiriedolaeth.  Hefyd, maent yn cynnig cyngor ar wylio a rheoli heintiau a geir mewn ysbytai sy'n ymddangos yn y gymuned, ac ar atal a rheoli heintiau a geir yn y gymuned sy'n debygol o gael effaith ar reoli heintiau ysbyty.

Yn ystod achosion mawr o haint sy'n effeithio ar ysbytai a'r gymuned, bydd y Tîm Rheoli Haint yn helpu Meddyg Ymgynghorol Meddygaeth Iechyd a Cyhoedd (Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy) sy'n gyfrifol yn gyffredinol am archwilio i, a rheoli'r achos.

Pwyllgor Rheoli Haint Ysbyty

Wedi'i gadeirio gan y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a chan gynnwys cynrychiolwyr staff a'r cyhoedd, rôl y Pwyllgor Rheoli Haint Ysbyty yw rhoi cyngor i'r Prif Weithredwr am y polisi rheoli haint, adolygu a diweddaru'r polisi, gweithdrefnau a chanllawiau'n rheolaidd ac i bennu'r rhaglenni blynyddol ar gyfer archwiliadau rheoli haint.  Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod bob tri mis.

Atal Haint yn yr Ysbyty - Canllaw i Ymwelwyr

  • Meddyliwch am sut i gadw cleifion yn saff cyn i chi ymweld â rhywun yn yr Ysbyty.  Os oes gennych chi neu rywun rydych yn byw gyda nhw annwyd neu ddolur rhydd, neu os ydych yn teimlo'n sâl, ceisiwch gadw draw hyn oni fyddwch yn well.
  • Cadwch at Amseroedd Ymweld yr Ymddiriedolaeth i roi amser i'r holl gleifion gael gofal, gorffwyso a gwella.
  • Ystyriwch yr effaith ar gleifion eraill allai fod yn sâl iawn a pheidiwch â gwneud gormod o swn.
  • Golchwch a sychwch eich dwylo cyn ymweld â ward ysbyty, yn arbennig ar ôl bod yn y toiled.  Defnyddiwch y gel alcohol a ddarperir wrth ddrws y ward neu wrth ymyl y gwely.
  • Gofynnwch i staff y ward am gyngor cyn i chi ddod â bwyd neu ddiod i rywun rydych yn ymweld â nhw yn yr ysbyty.
  • Pan fyddwch yn ymweld â rhywun yn yr ysbyty, peidiwch ag eistedd ar y gwely ac ni ddylai mwy na dau berson ymweld â'r claf ar y tro.  Peidiwch byth a chyffwrdd â gorchuddion, dripiau nag offer arall sydd o amgylch y gwely.
  • Os byddwch chi'n meddwl nad yw eiddo GIG mor lân ag y dylai fod, rhowch wybod i'r Prif Nyrs/Nyrs a Chyfrifoldeb.  Os ydych chi'n meddwl bod gweithiwr gofal iechyd wedi anghofio golchi'u dwylo, atgoffwch nhw am hyn.

Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cynhyrchu taflenni gwybodaeth a Newyddlen Rheoli Haint y gallwch eu lawrlwytho a'u hargraffu.

 Gwybodaeth ar Reoli Haint
Hyrwyddo Hylendid y Dwylo
Cyngor ar Olchi Dillad
Clostridium difficile
Gastroenteritis Firaol (Firws Noro)
Campylobacter
E. Coli 0157
ESBL (Extended Spectrum Beta-Lactamase)
Salmonella
Cryptosporidiwm
Newyddlen Rheoli Haint - Rhifyn 1

Ym mis Ebrill 2005, ymunodd yr Ymddiriedolaeth ag "Ymgyrch Golchwch eich Dwylo" yr Asiantaeth Genedlaethol dros Ddiogelwch Cleifion mewn ymdrech i annog mwy o staff, cleifion ac ymwelwyr i ddefnyddio'r gel alcohol cyn ac ar ôl ymweld ag ardal glinigol.




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS