North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 05 Rhagfyr, 2008
Mewngofnodi
Gwasanaethau
Services > Departments > Corporate Communications
ADRANNAU : Cysylltiadau Corfforaethol            
 

Mae’r Uned Cysylltiadau Corfforaethol yn gyfrifol am nifer o feysydd gan gynnwys cysylltiadau gyda'r cyfryngau, cyhoeddiadau, y wefan, gwasanaethau cyfieithu Cymraeg, gweinyddiaeth y Bwrdd a Chynllun Iaith Gymraeg yr Ymddiriedolaeth. 

Mae'r Uned wedi gweithio gyda'r Adran Offthalmoleg i gynhyrchu fideo a llyfryn gwybodaeth i gleifion fydd yn cael llawdriniaeth Cataract cyn hir. Mae'r deunydd hwn wedi ennill gwobr am ei safon. Mae hefyd wedi cynhyrchu DVD ar gyfer recriwtio.

Mae'r adran, ynghyd â staff clinigol a staff nyrsio, yn cyhoeddi nifer fawr o daflenni gwybodaeth i gleifion ar amrywiaeth o gyflyrau - mae llawer o'r taflenni hyn i'w gweld yn adran Taflenni Gwybodaeth y wefan hon.

Mae hefyd yn gysylltiedig â chynhyrchu cylchgrawn staff yr Ymddiriedolaeth "Tonig" a chylchgrawn i gleifion canser o'r enw "Canfod".

Mae'r Ymddiriedolaeth yn flaenllaw wrth gyflwyno gwasanaethau'n ddwyieithog, ac fe enillodd y wobr gyntaf am ‘y fenter newydd fwyaf llwyddiannus’ yng Ngwobrau'r 'Iaith Gymraeg mewn Gofal Iechyd' 2006 yn ogystal a ddwy wobr gyntaf ac un ail wobr yn 2005, a dwy wobr gyntaf yn 2004.

Ymholiadau gan y Cyfryngau

Yr Uned Cysylltiadau Corfforaethol sy’n delio efo pob ymholiad gan y cyfryngau ac ymholiadau gan newyddiadurwyr.

Mae’r Uned hefyd yn delio efo pob cais yn ymwneud â chynhyrchiadau fel dramau a rhaglenni dogfen.

Dylid cyfeirio ymholiadau at Trystan Pritchard neu Helen Granton ar 01248 384939 neu drwy e-bost at:
press.office@nww-tr.wales.nhs.uk

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS