| Mae'r holl driniaethau ac archwiliadau radiograffig a radiolegol yn cael eu darparu gan radiolegwyr ymgynghorol achrededig. Gwneir ystod eang o archwiliadau a thriniaethau delweddol ac ymyriadol hefyd.Mae'r adran yn cynnig gwasanaeth Damweiniau ac Achosion Brys 24 awr. Yn Ysbyty Gwynedd mae wyth ystafell pelydr-X gyffredinol gan gynnwys DVI, fflworosgopeg a thomograffeg, deintyddol, mamograffeg, CT troellog, MRI, Delweddu Radioniwclid, 3 pheiriant Uwchsain gyda 'doppler' llif lliw. Yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno mae tair ystafell gyffredinol gan gynnwys fflworosgopeg, tomograffeg deintyddol a mamograffi, uwchsain gan gynnwys Doppler llif lliw. Mae peiriannau uwchsain gyda doppler llif lliw a chyfleusterau cyffredinol pelydr-X ar gael hefyd ar safleoedd eraill yn yr Ymddiriedolaeth. Staff Meddygol Ymgynghorol
|
|