Mae'r adran yn darparu Gwasanaeth Patholeg cynhwysfawr 24 awr gan gynnwys cyngor clinigol i'r ysbytai llym a chymuned a meddygon teulu yng Ngwynedd, Mon a rhannau o Gonwy.
Mae'r prif labordai yn Ysbyty Gwynedd ac mae adran amlddisgyblaethol lai yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno. Mae system cyfrifiadurol y labordai'n golygu bod modd cysylltu'n llawn rhwng safleoedd ac yn galluogi adrannau i gasglu a darparu pob gwybodaeth glinigol a rheolaethol perthnasol. Sefydlwyd cysylltiadau hefyd gyda mwy na 30 practis cyffredinol sy'n eu galluogi i gael canlyniadau profion. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ddatblygu yn y dyfodol i gynnwys pob practis meddyg teulu sy'n defnyddio'r labordai.
Mae'r rhan fwyaf o wardiau Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Cyffredinol Llandudno yn gallu cael canlyniadau Cemeg Glinigol a Haematoleg drwy gyfrifiaduron personol y wardiau.
Mae ystod llawn o brofion diagnostig histopatholeg a cytoleg yn cael eu cynnal yn yr adran yn Ysbyty Gwynedd. |
|