North West Wales NHS Trust
A   A   A
      Hafan      Adborth      Cymorth gwefan      Polisi preifatrwydd 07 Ionawr, 2009
Mewngofnodi
Llun adran Gwybodaeth - Orthoptydd
Gwybodaeth > Sector Gwirfoddol > Y Groes Goch
SECTOR GWIRFODDOL : Y Groes Goch            
 

Mae gwasanaeth sydd yn cefnogi cleifion i adael yr ysbyty yn gynharach ar gael ym Môn a Gwynedd.

Mae’r gwasanaeth newydd Gofal a Chefnogaeth wedi ei anelu at gleifion 18 oed a throsodd ac mae’n cynnwys darpariaeth cadeiriau olwyn, ychydig o drafnidiaeth ac ymweliadau gan wirfoddolwyr y Groes Goch am hyd at chwe wythnos ar ôl iddynt adael yr ysbyty.

Eglurodd Cydlynydd y prosiect, Helen Williams o’r Groes Goch fod y Gwasanaeth Gofal a Chefnogaeth y cyntaf o’i fath yng Nghymru.

"Yr ydym yn cynorthwyo cleifion i fynd adref o’r ysbyty ddiwrnod neu ddau yn gynharach drwy gynnig cludiant yn ein bwsiau mini neu yng ngherbydau gwirfoddolwyr, benthyciad cadair olwyn am gyfnod o hyd at dri mis ac hefyd mae gennym griw o wirfoddolwyr a all wneud ychydig o siopa am eitemau sylfaenol fel llefrith a bara cyn i’r claf fynd adref,’ dywedodd Helen.

"Hefyd, bydd ein gwirfoddolwyr, sydd wedi eu hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf sylfaenol, Symud a Handlo, dros gyfnod o chwe wythnos yn ymweld â’r cleifion yn eu cartrefi unwaith neu ddwy waith yr wythnos neu fel bo’r angen i gynnig cefnogaeth emosiynol, nôl priscripsiwns, cymorth i lenwi ffurfleni, ysgrifennu llythyrau, cadw cwmni neu gysylltu ag aelodau eraill o’r teulu."

"Ar ôl i’r cyfnod o bedair neu chwe wythnos ddod i ben, byddant yn cyfeirio’r cyn-gleifion at fudiadau eraill fel clybiau cymdeithasol a mudiadau gwirfoddol ac mae hyn oll yn ran o strategaeth i leihau ailymweliadau â’r ysbyty ac hyd yma o’r 30 neu fwy y mae staff yr ysbyty wedi eu cyfeirio atom, nid oes yr un wedi dychwelyd i’r ysbyty."

"Mae’r cleifion sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth hyd yma wedi synnu fod y gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac mae’r nifer fechan o staff yr ysbyty a Gweithwyr Cymdeithasol yr Ysbyty sydd yn cyfeirio cleifion atom wedi bod yn broffesiynol iawn ac yr ydym yn barod wedi dechrau datblygu perthynas weithredol dda gyda nifer ohonynt,’ meddai Helen.

"Yr ydym ’nawr yn gweithio tuag at ymestyn y gwasanaeth i’r rhan fwyaf o’r wardiau yn Ysbyty Gwynedd a gall staff gael ffurfleni cyfeirio neu fwy o wybodaeth am y prosiect drwy gysylltu â mi ar 01248 671841 hyd at dri o’r gloch yn ystod yr wythnos."

  Groes Goch Prydeinig

 




Home | Feedback | Help | Privacy Policy | Terms

North West Wales NHS Trust © 2007, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Tel: (01248) 384384 | Fax: (01248) 370629
   Site design and development by WiSS  Powered by WiSSCMS