Ar 5 Gorffennaf 2005 cafodd Ymgyrch Ymwybyddiaeth Ynni'r Ymddiriedolaeth ei lansio gan Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Mr Elfed Roberts. Rhododd anerchiad i gynulleidfa o 70 o bobl oedd yn cynnwys cynrychiolwyr gwirfoddol ynni lleol ac aelodau gweithredol ac anweithredol y Bwrdd. Rhoddodd Mr David Kennedy, Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau gyflwyniad i’r achlysur ac amlinellodd y Cadeirydd fanteision yr ymgyrch. Yna rhoddodd Mr John Mulholland, Cyfarwyddwr Grwp Ymgynghorol NIFES gyflwyniad ar ffurf sleidiau i esbonio’r amcanion, y strategaeth a’r cynllun gweithredu. Caiff yr ymgyrch ei ariannu’n gyfan gwbl gan Yr Ymddiriedolaeth Garbon yng Nghymru ac Ystadau Iechyd Cymru. Mynegodd cynrychiolwyr y ddau sefydliad, Mr Colin Albel ac Mr Eric Thomas, eu cefnogaeth i’r fenter gan egluro y byddai’r gwersi a ddysgir o’r ymgyrch yn cael eu defnyddio mewn Ymddiriedolaethau GIG ar draws Cymru. Yna arwyddodd y Cadeirydd a chynrychiolwyr yr Ymddiriedolaeth Garbon yng Nghymru ac Ystadau Iechyd Cymru eu hymrwymiad i’r ymgyrch. Hyd yn hyn cafodd 30 o Gynrychiolwyr Ynni Lleol eu hyfforddi gan NIFES i weithredu fel llysgenhadon lleol i’r ymgyrch yn eu hadrannau neu ardal. Ar ôl lansio’r ymgyrch aeth y Cadeirydd a chynrychiolwyr yr Ymddiriedolaeth Garbon yng Nghymru ac Ystadau Iechyd Cymru o gwmpas y wardiau i drafod ynni gyda staff ac i glywed eu hawgrymiadau ar gyfer arbed ynni drwy ddulliau syml a da o gadw tŷ, Mae newid hinsawdd yn uchel ar yr agenda rhyngwladol ac mae angen lleihau’r carbon sy’n cael ei ryddhau gennym – gartref ac yn y gwaith. Nod yr ymgyrch ydy lleihau CO2 o 572 tunnell ym mlwyddyn gyntaf yr ymgyrch ac mae hyn yn cyfateb i arbed £60,000. Yn ei anerchiad awgrymodd y Cadeirydd pe byddai pob aelod o staff yn arbed 1c y dydd ar ynni neu ddwr y byddai’r Ymddiriedolaeth yn arbed £20,000 y flwyddyn. Felly pe byddai 3c y dydd yn cael ei arbed byddai modd cyrraedd y targed o £60,000 yn hawdd. |